EXCELSIOR. YMDAENYNT lleni'r nos yn chwai, Ei ael oedd brudd; ei lygad cain Mewn hoff drigfanau gwelodd wawl "Na ddos i'r daith !" medd henwr, "nèn Sy'n duo i'r ystorm uwchben, Dwfn, cang, yw'r llifeiriant broch;" "O aros!" medd morwynig wèn, "Y pinwydd gochel! gangen wyw! Ar dòriad gwawr, pan un o blant Y ffyddlawn helgi, teithiwr prudd Gorweddai yno'n oer heb ffun, Rhwng gwawl a gwyll, ond hardd ei lun ;* Gelligroes. ANEURIN FARDD. RHYDDID. O! deffro, bêr Awen, O! deffro yn awr, Gwyn fyd y gym'dogaeth, a dedwydd y fan, Cyn hir gwna ddiddymu caethiwed yn llwyr, I ollwng pob caethwas o'i rwymau yn rhydd; I dalu eu teyrnged i Lywydd y byd; Y trethwyr yn gyfiawn, heb filwr na chledd, Castell-Nodwydd, Pontymeistr. ON THE DEATH OF MRS. ALLEN, Whose youthful loveliness, and many virtues, had fondly endeared her to an affectionate husband, a widowed mother, and mourning friends. [See account of her death in our obituary.] SHE sleeps in a far and distant clime, Of that better land where no mourning woe She but sleeps!-sadden'd Mother, then dry up your tears; Gone before to await you; a few fleeting years In those regions of sun-shine beyond the Tomb. genym ganfod, er hyny, nad yw y derbyn. iadau wedi bod gymaint ag y dysgwylid. Dichon fod effaith y rhyfel yn cael ei deimlo yn y rhanau llaw-weithyddol. Ond yr ydym wedi cael cynauaf toreithiawg; ac nid yn unig hyny, ond cafwyd hefyd hîn hyfryd i gasglu yn nghyd ffrwythau y ddaear. Mae yn dda genym ganfod diolchgarwch yn cael WHIMPER PORTHLADD SPAIN, TRINIDAD, O'R FFORDD I ST. JOSEPH. ei dalu mor gyffredinol i Lywydd y bydoedd am ei ddaioni. Yn awr, ynte, yw yr amser i Gristionogion ddangos eu cydnabyddiaeth hwythau, nid mewn geiriau yn unig, ond drwy gyfranu yn haelfrydig at achos Duw. Pan ag y mae ef yn agor ei law, gan roddi i ni y bara a dderfydd, bydded i ninau, ei bobl, uno yn ein hymdrechion, i roddi bara y bywyd i'r rhai hyny ydynt yn marw o eisieu gwybodaeth. Mae yn wybodus i amryw o'n darllenwyr, fod Pwyllgor Cymdeithas Genadol y Bed. yddwyr wedi dyfod i'r penderfyniad i anfon rhyw un allan i'r India Ddwyreiniol, er arolygu a dwyn i weithrediad amcanion y Gymdeithas yn y parth hwnw o'r byd. Argymerwyd y gorchwyl pwysig gan Mr. Underhill; ac ar ddydd Mawrth, yr 20fed o fis Medi diweddaf, ymadawodd ef, ei wraig, ei ferch henaf, ac amryw berthynasau a chyfeillion ereill, o Southampton, yn y llong "Indus,' yn nghanol dymuniadau da lluoedd o gyfeillion. Y Llun blaenorol, cynaliwyd cyfarfod yn nghapel Lewisham Road, Llundain, mewn cysylltiad ag ymadawiad Mr. Underhill. Wedi canu hymn, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. J. Speuce. Yna Mr. Peto, yr hwn a lywyddai, a eglurodd yr hyn a ddarbwyllodd y Pwyllgor i ofyn i Mr. Underhill i argymeryd y gorchwyl. Y Parch. J. H. Hinton a anerchodd Mr. Underhill, gan gyfeirio allan rai o'r pwyntiau a alwant am ei sylw, a diweddodd trwy roddi rhai cynghorion cyfeillgar iddo. Mr. Underhill a atebodd mewn araeth doddedig. Yna y Parch. J. Russell a'i cyflwynodd ef a'i deulu i ofal yr Hollalluog, a therfynwyd y cyfarfod dyddorawl gan y Dr. Steane. Yn ddiweddar, mae y Gymdeithas wedi cael colledion trwy angeu. Y Cenadwr henaf ar y maes, sef Mr. W. Robinson, wedi Ilafurio am 47 mlynedd, gyda gradd helaeth o lwyddiant, a symudwyd o'i babell adfeil. iedig i'r tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd, yn 70 oed. Cofnodwyd hefyd ymadawiad un o gymdeithion sylfaenwyr y Gymdeithas, y gorhynaws ei ysbryd, y Parch. Ddr. Cox; a swyddog y Gymdeithas yn Nghymru, y bywiog a'r caredig "Gymro Bach." Mae dau o'n cenadon wedi gorfod gwneud tiroedd India yn feddrod i'w gwragedd a'u plant; a'r Mrd. Capern, Phillips, a Makepeace, wedi gorfod dychwelyd adref am dro i adferu eu hiechyd. I'n calonogi, pa fodd bynag, yn ngwyneb hyn, mae yr Arglwydd wedi rhoddi yn nghalon y brodyr canlynol i lenwi y bylchau:-Y Parch. C. Carter, i Ceylon; y Parch. H. P. Cassidy, i Bombay; a'r Parch. R. Robinson, i lenwi lle ei anwyl dad yn Daca. I gyflawni y bwriad o ychwanegu rhif y cenadon yn India, mae tri o frodyr o'r wlad hon wedi cychwyn tuag yno, sef y Parchedigion J. Gregson, J. H. Anderson, a T. Martin; a L. F. Kalberer a dderbyniwyd i fyned i Patra, ac adgyfnerthir y genadiaeth yn Affrica, trwy fynediad Mr. J. Dibol i Fernando Po. Deallwn hefyd fod y Pwyllgor wedi derbyn cynyg o wasanaeth y Parch. J. Mackay, diweddar o Goleg Bradford; ac y bydd iddo fyned allan yn fuan. Wrth daflu golwg ar effeithiau llafur y flwyddyn ddiweddaf, nid yw y Gymdeithas heb anogaethau cryfion i fyned yn mlaen, a pheidio diogi yn y gwaith o efengyleiddio y byd; ond i lafurio yn helaethach, " gan wybod na fydd eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Un peth sydd yn digaloni y Pwyllgor,-y galwad am weithwyr i'r cynauaf, ac ond ychydig yn ateb, "Wele ni, anfonwch ni." Pa le mae yr aidd santaidd hwnw a wnaeth i lawer adael pob peth cyn hyn er mwyn Crist, ac iachawdwriaeth y byd? O feibion a merched Seion, ymgysegrwch eich hunain i'r Arglwydd. Mae miloedd China ac India yn llefain, "Deuwch trosodd, a chynorthwywch ni!" "Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml." ESBONIAD AR Y TESTAMENT MR. GOL., Caniatewch i mi ddweyd gair wrth y caredigion hyny sy'n awyddus am weled y Testament gyda'r nodiadau a gynygir genyf yn dyfod o'r wasg. Peth anhawdd i'w rhoddi meddylddrych cywir i'r darllenydd am ansawdd y gwaith, nes y cânt olwg ar ran o hono fel cynllun o'r cwbl. Pa fodd bynag, amcenir rhoddi llawer mewn ychydig, ac am ychydig. Cyfunir ynddo, hyd ag y gellir, brif fanteision a rhagoriaethau amryw o'r Esbonwyr Seisnig. Yr wyf fi yn caru eich cynllun chwi, Mr. Gol., sef i ddeg neu bumtheg o weinidogion gyduno i gyfansoddi gwaith dysgedig a llafurfawr ar y Testament Newydd gwaith a ffurfia gyfnod newydd yn llênyddiaeth gysegredig y Dywysogaeth; eithr gan nad oes neb wedi ymaflyd yn y fath waith hyd yma, yr wyf yn tybied, os caf iechyd, y bydd fy ngwaith bychan i ar ben cyn y byddant hwy yn barod i ddechreu cyhoeddi. Heblaw hyny, gwaith bychan i wasanaeth yr Ysgolion Sabothol wyf fi yn grynhoi, i fod yn help i'r athrawon yn y dosbarthiadau; pryd y dysgwylid i lafur cyfunol cynifer o frodyr galluog fod yn rhy faith a dysgedig i'w ddefnyddio gan y dosbarth hwnw o ddarllenwyr yn yr ysgolion. Ond fy amcan penaf yn hyn o nodyn yw, mynegu y bydd y rhan gyntaf o'r Testament yn y wasg yn dra buan; a chan fy mod i mor bell oddiwrth y wasg, mae fy nghyn. athraw hoff, Mr. Williams, o'r Rhosllanerchrugog, yn addaw darllen y prawfleni.. Bydd hyny yn ddigon o sicrhâd y daw y gwaith allan yn gywir a diwall. Yn y cyfamser, dymunaf ar bawb a garant gael y WELE fi, rwan, mewn train newydd, ac efe yn drain plenig; yr hen drain a'm derbyniodd iddo yn llanc gwridgoch, fel Dafydd fab Jesse, oddiar ben mynydd yn bugeilio, wedi ei adael am byth. Nid dychymyg yw hyn, ond ffaith; ïe, ffaith bwysig, ag sydd yn peri i'r holl fyd deimlo; mae pawb yn mhob byd, goror, a chantref, yn gwybod am danaf-pawb yn mhob tafodiaith yn siarad am fy enw; mae grug y mynydd, glaswellt y dyffryn, yn gystal a chreigiau y moroedd, wedi derbyn ysgydwad. Yr wyt ti, y sil odyn bychan torog, a welaf fi yna yn ysprancio yn mrig y dòn, yn gwybod am hyn; os amgen, dywed na. Dim ateb; nid gwiw gwadu; yr wyt yn gwybod, canys nid wyf fi yn dewinio yn ofer. Mae'm hen gydymdeithwyr oll-Jupiter a dosturio wrthyntyn mron a thòri eu calonau mewn hiraeth ar fy ol; llygaid y rhan amlaf o honynt yn wlybion er ys saith mis, ac mor ddiobaith a Chorsfochnog o gael eu sychu; miloedd o honynt yn hiraethu am fy nilyn-yn dyfeisio, yn breuddwydio, ac yn gweddio am gyfle. Pwy ryfedd? Mae y train newydd yn un mor olygus 1st class carriage-boneddigon penaf y byd yn ei farchogaeth, a minau weithian yn un o honynt; ac y mae pob dyn o chwaeth-Isaac Griffiths, John Pali Jones, a finau, yn dra sicr o fawr chwenych y fath ragorfraint; cyrhaeddwn anrhydedd, gan adael y werin gyffredin-y mob-y ceibiau saith-holltaidd, ar ol, yr hyn yw ein cyrchnod er yn fechgyn. Sut y bu i mi oedi cyhyd? Ai ofn oedd arnaf na dderbyniasid fi? Ai diffyg gwroldeb i newid fy marn? Pw! na! Newid barn! Ni fu genyf fi farn sefydlog er ys blynyddau; ac onid yw enwogion y ddaear yn agored i newid eu barn? Oni newidiodd Adda ei farn? ac Abram, mae'n debyg? a Demas? Ac oni newidiodd yr Anrhyd. B. W. Noel ei farn yn ddiweddar? Pa wahaniaeth sydd rhwng fod un yn newid ei farn yn erbyn ei hunanles, a'i fod yn newid ei farn o du ei hunanles-yn newid ei farn o waeth i well, nâ'i fod yn newid ei farn o well i waeth? Siaredir am 66 egwyddorion," a "chydwybod," &c. ; ond nid wyf fi yn teimlo poen yn y byd oddiwrth bethau felly; mae genyf fi gydwybod i ddweyd a gwrthddweyd—i daeru a gwadu-i wadu a thaeru; oc oni ddylai pawb fedru meistroli eu hunain? Mae genyf obaith yn awr i ddyfod yn ddyn mawr -yn gedrwydden uchelfrigog-yn offeiriad, ac efallai yn ynad, os nid yn rhywbeth mwy; gallaf ymuniawni a fynwyf heb fod perygl i'm gwallt ysgubo y gronglwyd. Tyfu yw gwahaniaethu; yr un gair sydd yn yr Arab. aeg am y ddau. Bod yn fawr yw bod yn wahanol i ereill; gwisgo yn foneddigaidd yw gwisgo yn wahanol i bobl ereill ; cerdded yn arhoyw yw cerdded yn wahanol i bobl ereill ; ysgrifenu yn ddysgedig yw ysgrifenu yn wahanol i bobl ereill; cyfeirio y bys tua'r llawr wrth siarad am ddringo ysgol, a thua'r nèn wrth siarad am ddisgyn mewn soddgloch, yw bod yn areithyddol. Myfi a gaf dderbyn dwylaw santaidd olynydd Pedr ar fy mhen, a'm cyfrif yn gymhwys i wisgo ffengrys am fy ngwar, a darllen y Llyfr Gweddi mewn lle cysegredig. Ni chaniateir hyn i deithwyr yr hen drain; gan hyny, myfi a fyddaf yn fwy nâ hwynt oll, oblegid bod yn wahanol iddynt yw bod yn fwy. Heblaw hyny, nid oedd y werinos-dynionach dichwaeth, ceib. aidd, a saith-holltaidd, yr hen drain yn fy nghydnabod yn ymgrymu i mi, ac yn fy nghanmol; eri mi newid fy athrawiaeth a'm dullwedd bump ar hugain o weithiau-llefaru, a gwrthlefaru; ysgrifenu, a gwrthysgrifenu; dangos gwên, a chauad dwrndilynai y bobl eu trwynau-eu mympwyau; os byddai rhai yn canmol, byddai mwy yn cablu. Dangosent ormod o annibyniaetho Red-republicanism. Yr oedd Rowlands, Llangeitho, a Jones, Llangan, yn boblog. aidd; yr oedd eu henwau yn cynull tyrfa. oedd, a'u doniau yn eu trydanio; buont o ddirfawr les i Gymru wael; eithr y mae pobl yr hen drain mor hurt-mor Redrepublicanaidd, fel na phlygant i mi! Yn lle canmol, cablu; yn lle cynull, ymwasg. aru; yn lle ymostwng, ymgodi; yn lle byw mewn undeb, rhwygo! Ow yr helynt a fu arnaf yn Nghastellnedd ac yn Nhrosnant!! Ni ŵyr yr Hollwybodol am haner fy helbulon!!! Diolch, nid i grefydd, ond i'r gyfraith wladol-nid i Dduw, ond i'r police, fod genyf ben goruwch fy ysgwyddau. Nid arnaf fi yr oedd y bai. Mé génoite. Nid oes tu yma i Pandemonium, os nad yw efe yn saith-holltaidd, ac yn Red-republicanaidd, a frydia hyn. Na, ar y train yr oedd y bai; ceir gweled hyny ar ol i mi gael fy urddo a'm graddio yn y train newydd; oblegid ni fydd genyf wedi'n ond yr esgob a'r angeu i'w hofni; ni fydd gan neb arall hawl i godi fy sodlau i gusanu y sêr; bydd hyny yn beth newydd i mi. Mae gan y mob-y giwed -yn yr hen drain, hawl i wrthod yn gystal a derbyn. Ni ddylai hyny fod; maent yn rhy ddichwaeth yn rhy annysgedig i hyn. yma. Od oes ganddynt hawl i dderbyn, ni ddylai fod ganddynt hawl i wrthod; maeat yn rhy geibaidd i newid eu barn, Yr hyn sydd yn rhinwedd ynof fi, a mi yn ddysgedig, sydd yn drosedd ynddynt hwy, gan eu bod yr hyn ag ydynt. Am fod Daniel Rowlands, Llangeitho, yn y Llan, cynullai y bobl ato; am fy mod inau yn y Capel, ciliai y bobl oddiwrthyf: am fod Rowlands yn y Llan, cyfrifid ef yn boblogaidd; am fy mod inau yn y Capel, ystyrid fi yn anmhoblogaidd. Ar y train yr oedd y bai. Dywedir wrthym hefyd, ac yr wyf fi fy hun wedi ei ddywedyd, fod statistics yn profi-nid statistics y census-ni choelir dim ag sydd yn anffafriol-fod y train newydd yn myned rhagddo yn fwy llwyddiannus nâ'r hen; ac onid yw hyn yn rheswm dros fyned iddo? Yn enwedig i fi, sydd â'm bryd i fod yn fawr ac yn boblogaidd. Ac od oes gan rywun swta rwystr yn ei gydwybod fyned lle y myno, gwybydded y Bedyddwyr, yn anad neb, nad oes ganddynt hwy, fel enwad nad yw erioed wedi ymostwng i'r ddelw aur-wedi cydnabod y wladwriaeth mewn pethau crefyddol yn ystyried babanod yn aelodau eglwysig-nac hyd eto wedi ymostwng i Bab, Esgob, na Deonnad oes ganddynt hwy onid cam bychan o un train i'r llall. Dichon fod ugeiniau yn rhy gibddall i ganfod grym a dylanwad yr ymresymiadau uchod; ond bydded hyny o fai arnynt hwy; canys y mae y cyhoedd yn gwybod na ddarfu i mi erioed ymresymu yn well. Ac os wyf fi yn gallu ymresymu yn ddigon llwyddiannus i argyhoeddi fy hun, a'r boneddigion ynt yn awr yn cyd-farchogaeth yn y train newydd, onid yw yn od fod neb mor hurt ac annysgedig â gwrthod cymeryd eu hargyhoeddi? Ond nid wyf yn bwriadu gadael ar hyn; eithr myfi a ysgrifenaf tra byddo Haul, inc, a gwyddau. Aberaeron. CLUSTFEINYDD. HANESION CREFYDDOL. CWRDD TRI-MISOL SWYDD GAERFYRDDIN. Y cwrdd uchod a gynaliwyd ar y 26ain a'r 27ain o Fedi, yn Nghapel Seion, Llanelli, pryd y gweinyddwyd gan y Brodyr Morris, Soar, Llandy faen; Williams, Llangendeyrn; Reynolds, Cydweli; Thomas, Penrhiwgoch; Francis, Castellnedd; a Thomas a Jones, Caerfyrddin. Penderfynwyd yn y gynadledd ar y pethau canlynol: 1. Fod rhifedi yr eglwysi a gasglant at y Genadiaeth i gael eu darllen yn y cwrdd chwarter nesaf, er mwyn cael cydweithrediad cyffredinol. Yr arian i gael eu hanfon i'r Brawd N. Thomas, Caerfyrddin. 2. Nad ydym ni yn y swydd hon yn derbyn gweinidogion o swyddi ereill nad ydynt yn cael eu cydnabod yn eu cymanfaoedd eu hunain. 3. Fod y cwrdd nesaf i gael ei gynal yn Cross Inn, ar y 6fed a'r 7fed o Chwefror. SEFYDLIAD GWEINIDOG. Cyfarfod er cydnabod yn gyhoeddus sefydliad y Brawd John Morris, gynt o Bethabara, Dyfed, yn Nghwmifor, sir Gaerfyrddin, a gynaliwyd ar y 17eg a'r 18fed o'r cynfis. Y nos gyntaf, dechreuwyd gan y Brawd Arthur, Ffrwdyfal; a phregethodd y Brodyr Thomas a Jones, Caerfyrddin. Am 10, boreu dran. oeth, dechreuodd y Brawd J. Jones, Hermon (A.); a phregethodd y Brodyr E. Thomas, Tredegar, a J. Jones Merthyr. Am 2, dechreuwyd gan y Brawd J. Williams, Llanymddyfri; a phregethwyd gan Thomas a Jones, Caerfyrddin. Am 6, pregethwyd drachefn gan Thomas, Tredegar, a Jones, Merthyr. Cafwyd yma gyfarfodydd hynod o hwylus a gwlithog, ac yr ydym yn hyderu y byddant o fendith i'r eglwys a'r gymydogaeth. Y mae yn hyfryd genym allu hysbysu fod ein hanwyl frawd Morris yn dechreu ar ei weinidogaeth yn y lle uchod dan amgylchiadau gobeithiol iawn, ac wedi cael arwyddion helaeth eisoes fod ei weinidogaeth o les i'r eglwys a'r wlad. Y mae wedi cael y pleser o fedyddio amryw yn barod, ac y mae ereill o flaen yr eglwys. Llwyddiant mawr a'i dilyno. EWYLLYSIWR Da. CYFARFOD BLYNYDDOL BETHEL, LLANELLI.' Cynaliwyd y cyfarfod uchod Hydref laf a'r ail, pryd y pregethodd y Brodyr R. Owen, Abergwaen; J. Lloyd, Merthyr; a T. Thomas, Bassaleg, gyda derbyniad mawr a chyffredinol. Cynorthwywyd yn nygiad yr addoliad yn mlaen gan y Brodyr W. Hughes, W. Rogers, a Mr. Davies (A.). Yr oedd yr hîn hyfryd, y pregethau da, y cynulleidfaoedd lluosog, a'r casgliad rhagorol a gafwyd, yn cydwasanaethu er gwneud y cyfarfod yn un hynod o ddymunol. Er nad yw y cyfeillion yn Methel wedi bod un amser yn orawyddus am i'w henwau ymddangos yn gyhoeddus mewn cysylltiad â'u llafur a'u cyfraniadau crefyddol; eto, y mae eu haelioni parhaus yn deilwng o'i gofnodi, a'i ddàl allan fel siampl i ereill nad ydynt mor enwog mewn ymdrech i symud eu dyledion. Nid oes eisieu dweyd fod y casgliad eleni yn un da; digon yw hysbysu iddo gyrhaedd y swm o £113 14s. Cadwed yr Arglwydd yr ysbryd haelionus hwn yn yr eglwys a'r gynulleidfa hyd byth W. HUGHES. CYFARFOD BLYNYDDOL. Cynaliwyd Cyfarfod Blynyddol Bethlebem, Porthyrbyd, ar ddydd Sul, y 24ain o Fedi. Pregethwyd gan y Brodyr canlynol yn fedrus, yn ol eu harfer :-B. Thomas, Penrhiwgoch; L. Evans, Bethlehem, Abertawy; a H. W. Jones, Caerfyrddin. Casgl wyd rhwng yr oedfäon at y ddyled sydd yn aros ar ein ty cwrdd £22 7s. Yr ydoedd y cwrdd yn llewyrchus a phoblogaidd iawn, a gobeithiwn y caiff yr hâd da ddyfnder daear. |