Page images
PDF
EPUB

LLINELLAU

Ar Farwolaeth y PARCH. JAMES SPENCER, Gweinidog y Bedyddwyr yn Nghapel Seion, Llanelli, yr hwn a hunodd yn yr angeu, Mai 7fed, 1854, yn 42 mlwydd oed.

Y BYD hwn lle trigwn, chwareufwrdd mawr amser,
Sy'n llawn o achosion llawenydd a phrudd-der;
Dyfodiant yn agor ei ddorau 'n ddiaros,
Golygfa 'n myn'd heibio, a'r llall yn ymddangos.
Pob dydd sydd yn dyfod â'i hynod amgylchiad,-
I'r naill try'n ddydd llawen, i'r llall dydd galarnad;
Pan godir y llèni, canfyddir y rhanau

A erys ar gyfer pob person i chwarau ;
Ryw chwareu diffuant, a llwyr wirioneddol,
A'r holl gyflawniadau y profiad yn unol.

Mae ar y chwareufwrdd i'r weddw adfydus,
Mewn colled o'i phriod, ei dernyn galarus;
Ni thycia mwynderau, ni fyn ei chysuro,
A thry yn ben-isel fel Rahel i wylo;
Newidia'r gwynebpryd, bydd gwelwi'n y gruddiau,
A'r llygaid gan alar a droir yn ffynonau,-
Y profiad yn isel, ar ffo pob dyddanwch,
Tra'n porthi'r ochenaid yn gyflawn bydd tristwch.
Nid ydyw caine adar bryd hyn ar y brigau,
Na harddwch y maesydd, na threigliad y ffrydiau,
Dysgleirdeb yr haulwen, na gloewder y weilgi,
Arogledd y blodau, na gwynder y lili,
Na miwsig perseiniol, yn peri un llonder,
Na chymhorth i'r meddwl tra bo mewn iselder.
Adgotion o'r oriau dyddanus a dreuliwyd,
A'r felus gyfeillach mor gyflawn a gafwyd,
Yr olwg fawreddawl a gawd ar y person,
Ei rodiad diwyrni, a'i ddoeth ymadroddion;
Y meddwl yn gwledda bryd hyn ar y pethau,
Na fyddant yn aros ond mewn drychfeddyliau,
A'r hwn i'r nodweddion a roddai fodoldeb
Yn gorwedd yn dawel yn ngwlad y dystawdeb.
Dyn mawr pan yn cwympo, nid yw gyfyngedig
Y galar am dano i'w weddw glwyfedig,
Mae ereill a deimlant, a theimlant fel dynion
Yn bwrw eu colled ar ol rhagorolion.
Rhyw gwyno a glywir gan bob gradd ac oedran,
Oddieithr y dosbarth sy'n cynwys y maban;
Dyn mawr gwedi 'madael, gwr call gwedi syrthio,
Pregethwr rhagorol yn ngharchar tir ango';
Esboniwr dysgedig, darluniwr galluog,
Dyn cryf o gyneddfau, o ddoniau tra enwog,
Y gweithiwr difefl, y milwr dros Iesu,-
Och 'nawr, fod yr Athraw tra doeth wedi trengu!
Aelodau awyddus am gyrhaedd gwybodaeth,
A'r rhai fo'n archwaethus am ddyfnder athrawiaeth,
Pan gollant weinidog profedig a duwiol-
Un medrus i'w porthi â'r manna danteithiol,
Nid ydynt fluantwyr pan glywir hwy'n cwynaw,
Mewn coll o ddawn treiddiawg, toreithiawg eu hath-

raw.

Gofyna'r darllenydd, 'Rwyf bellach yn chwenych Cael eglur hysbysiad, pwy all fod y gwrthddrych? Ameenwch ddarlunio dyn mawr yn ddiamau, O enaid dirnadol, a chryf o gyneddfau ; A yw'n ddichonadwy? 'rwy'n gofyn mewn pryder, Gan ofni'r atebiad,-Ai marw yw SPENCER? Rhy wir yw'r atebiad, ac oeraidd yw'r geiriau,— Efe nid yw mwyach; mae'n huno yn angau! Yn fud mae y genau fu'n fudd i eglwysi," A hir deimlir colled yn Seion, Llanelli.

Yr awen nis medr foddloni 'r dymuniad, Trwy ffurfio brawddegau mwy cyflawn o deimlad ; Mwy teilwng yw'r gwrthddrych i fod ar lèn banes Nå myrdd o wroniaid sy'n uchel ar gofres, Y rhai nid oes iddynt ond enwau rhyfelwyr, A'u clod yn gynwysol mewn bod yn orchfygwyr; Dynoliaeth yn ochain o herwydd y ddifrod A ddygent ar wledydd trwy gydol eu cyfnod : Dadlwythid y ddaear i'r bedd pan ddisgynent, A myrdd o drueiniaid eu henwau felldithient. Ond pêr enw'r cyfiawn a erys yn uchel, Er rhoi ei ran farwol mewn oerfedd yn isel;

Ei hoff goffadwriaeth a fydd fendigedig.
Ac mewn pell ddyfodiant yn dra dyrchafedig;
Can's am y Gweinidog, a doeth genad heddwch,
Ei holl weithrediadau i'r byd sydd yn elwch;
Holl rym ei arfogaeth yn troi'n erbyn pechod,
Y chwantau, a'r llygredd, sy'n llanw'r byd isod;
Y ffydd megys tarian, a helm iachawdwriaeth,
A chleddyf yr ysbryd, yw'r feiddiol arfogaeth;
Ac nid oes rhoi fyny i fod wrth ymfrwydro,
Dim troi o'r ymdrechfa, dim amser i graydro,
Rhan bwysig o'r rhyfel yw eiddo'r gweinidog,-
Mae ef rhwng y ddaulu'n gwynebu'r cryf-artog,
Yr hwn a'n gadawodd a lanwai'r desgrifiad,
Fel cristion, a bugail, o uchel gymeriad ;
Yn ddoeth yr ymlwybrai, yn hardd ymfucheddodd,
Dim gwyrni mewn gweithred, dim twyll mewn ym-
adrodd,

Dim hoced, na gweniaith, na dim derbynwyneb,-
Un peth oedd ei fywyd, a'r oll yn gywirdeb.

Yn ol ein byr reswm, rhy gynar aeth Spencer
O'r gwaith at y wobr yn ngwlad yr uchelder;
Gallasem ni feddwl fod einioes hir ddyddiau
Yn well yn cyfateb i wr o dalentau,

I un fel aur-lestr yn gyflawn o'r trysor,
Nas gall teulu'r ddaear yn un modd ei hebgor;
Ond dynol gynlluniau fynychaf sy'n methu,
Ryw uchel lywodraeth o hyd sy'n eu chwalu;
Yr Arglwydd sy'n myned a'i lwybrau trwy'r dyfader;
A'i ffyrdd trwy y dyfroedd fo fwyaf eu cryfder,
Eu deall nis gallwn nes cânt eu dadguddio,
Ac nid oes na gallu, na phwyll, all eu rhwystro.
I ddwy flwydd a deugain cyrhaeddodd ei cinios,
I ateb ei ddoniau nid ydoedd ond bèr-oes;
Myfyrion yn chwyddo, yn 'mofyn cangder,
Ond lle ni roed iddynt gan einioes o fyrder.

Ei feddwl eangfawr ar faes athronyddiaeth
Yn ddyfal bu'n chwilio, nes cyrhaedd cynysgaeth,
Gwybodaeth o'r celfau a feddai ef hefyd,
Ond llunio'i bregethau oedd hoff-waith ei fywyd;
Drwy'r rhei'ny cynyrchion ei feddwl drosglwyddai,
Tra'n addurn y cwbl dysgeidiaeth y byddai;
Gafaelai ei feddwl 'nol agor y testun,
Mewn dyfnder athrawiaeth, yn drefnus ei gynllun;
Dirgelwch duwioldeb, Duw'n gwisgo ein natur,
Ac aberth Calfaria yn iawn dros bechadur;
Doethineb y drefn trwy'r oll oedd ei rhanau,
A'r cwbl yn gorphwys ar un Cadarn Feichiau:
Holl amcan gweinyddiaeth efengyl dragwyddol,
I adfer dynoliaeth i gyflwr santeiddiol;
Gwneud Duw'n ogoneddus trwy'r oll o'i weithred

oedd,

A chodi'n y diwedd bechadur i'r nefoedd.

Ond 'nawr mae ei lafur i gyd gwedi 'i orphen, Y ffydd gwedi'i chadw-cyrhaeddwyd y dyben; Am hyny, mewn gwynfyd 'r oedd coron cyfiawnder, Gan Farnwr y bydoedd, yn aros i SPENCER.

[ocr errors]

PRYDDESTER.

AT OLYGYDD "SEREN GOMER" MR. GOMER,-Yn “Adolygydd" Mawrth, 1852, dywed yr awdwr doniawl ar yr Eng Cymreig, yn niwedd ei adolygiad ar "Ddifyrwch y Pererinion," gan Dafydd Jones, o Gayo, argraffedig dros yrawdwr gan Evan Powell, Caer fyrddin, 1763, fel hyn," Ar ddiwedd y rhan hon o Ddifyrwch y Pererinion', cawn Gân ra gorol oʻgynghor i beidio ieno yn annghymharus. Mae y pedwar penill olaf o honi wedi eu tori ymaith o'r copi sydd yn ein meddiant ni o'r llyfr, ac felly nis gallwn osod gerbron ein darllenydd ond rhan o honi. Ni chynygiwn uà esgusa wd am feithder y dyfyniad, am y gwydd om nas gallwn lanw ein tudalenau â dim tel yngach o sylw ienengtyd crefyddol ein gwlad. Dichon fod copi cyfan o'r Gan werthfawr hen yn meddiant rhywun o'r darllenwyr, ac y gwel

yn dda ei anfon i un o olygwyr ein misolion. Pe cyhoeddid hi yn mhob un o honynt, ni byddai hyny yn anfuddiol, debygem ni." Gan fod argraffiad 1763 o "Ddifyrwch y Pererinion" wedi dygwydd dyfod i'm llaw, a'r Gân hon yn gyf lawn ynddo, dichon, os nad yw yr awdwr wedi ei gweled oll cyn hyn, y bydd yn dda ganddo ef, a llawer ereill, ei chael yn awr. Ac os gwelodd · hi, gwn mai nid annymunol ganddo ei gweled eto, y cyfleusdra cyntaf a gefais i'w hanfon. Yr eiddoch, &c.,

ANEURIN FARDD.

CYNGOR I BEIDIO IAUO YN ANGHYDMARUS.

(Ysgrifenir hi fel y mae yn y llyfr.)

Gwyr Ifaine a Gwyryfon, plant ffyddlon Seion sydd
O fewn i Gymru'n tario yn rhodio a'u dwylo'n rhydd;
Ac yn bwrialu altro eu cyflwr eto ar hyn,
Clywch air neu ddau o gyngor, yn sobor ac yn syn.

Ni welwn yn y Scrythur orchmynion eglur iawn,
Am beidio iano a'r digred, rai diried heb ddim dawn;
Y Rheol hon dilynwn, a rhodiwn ar ei hol,
Gochelwn gyfeiliorni wrth ddylyn ffansi ffol.

Mae rhai mor ffol yn ddiau a charu am bethau'r byd,
Ac eraill am hawddgarwch prydferthwch wyneb pryd,
Heb mofyn am Rhinweddau, na Doniau yn y Dyn,
Ond cymryd wrth eu Llygaid, rai gwangred yn eu
gwyn.

Er bod rhai cnawdol felly, maen hwy yn colli mhell, O ran nad ynt yn canfod, na gwybod chwaith ddim gwell;

Can's Gras yw'r cyfoeth pena', heb hwnw beth dal

[blocks in formation]

Dyledswydd gwir gristnogion, yn ddoethion ac yn dde,

Yw nadel trachwant cnawdol, gelynol gael ei le,
A myn'd at Dduw o ddifri i ymgynghori'n gall,
Rhag iddynt gael eu temtio í iauo & Phlant y fall.

Saint Paul, yr hen Apostol, difrifol iawn y d'wed,
Na iauer chwi'n anaddas, plant gras â rhai digred;
Pa ran sy rhwng Credadyn ac Anghredadyn gau,
Anghymmwys iawn yw rheini i gyd uniawnu'r iau.
Ac eilwaith pa gymmundeb, rhowch ateb etto i hyn?
Sy rhwng goleuni a th'wllwch, considrwch nawr yn

syn,

Ni chydfydd CRIST'a Belial, un cymmal heb naccad,
A byth ni bydd Diddanwch na Heddwch rhwng eu
Had.

Er hyn mae rhai Cristnogion, ynfydion mawr mor fas,
A iauo a'r annuwiol gresynol heb ddim Gras,
Gan dybied gydag 'wllys y gallant hwy ryw ddydd
Eu troi nhwy fod yn dduwiol effeithiol yn y ffydd.
I hyn rwyf finneu'n atteb, na thwylled neb ei hun,
Ni all ond Duw ei hunan gyfnewid anian Dyn;
Am hyny gwell a challach ffwrdd o'u cyfeillach ffoi,
Na meddwl oll neu gellwer y gallant hwy eu troi.
Ni all fod undeb gwresog byth rhwng y Grasol ddyn
A Chydmar anghrediniol anuwiol llawn o wyn,
Fo'n caru'r Byd a'i feddiant a mwyniant trachwant
trist,

O flaen y trysor nefol a Pherson grasol CRIST.

[blocks in formation]

Pa faint o ofid calon ga's rai Duwiolion gynt,
Waith iauo'n anghymmarus, anhappus oedd eu hynt,
Job, Dafydd ac Abigail, a bagad gyda hwy,
Ac yn yr oes bresennol mac son am lawer mwy.
A llawer o'r rhai Ifainge fu'n rhyfedd iawn un waith,
A'u Hwyneb tua'r Bywyd debygsyd ar eu taith,
O'r achos hyn a rhwystrwyd, hwy hudwyd yn eu hol,
I drigo gyda'r digred a'r Anffyddlonjaid ffol.
Am hyny, mi ddymunwn, er mwyn eu gwir lesâd,
I'm Brodyr a'm Chwiorydd gymmeryd rhybudd rhad,
I beidio iauo a'r digred, er gwyched y fo'u gwedd,
Rhag iddynt gael eu rhwystro, a'u gyrru'n drist i'r
bedd.

Y sawl fo'n chwennych Bywyd diofyd yn eu Dydd,
Llawenydd a phob llwyddiant, a ffyniant yn y Ffydd,
Dewisant ddynion grasol, rhinweddol nefol nôd,
Bydd Bendith Duw'n y teulu lle bytho rheini'n bod.
Lle bo dau gymmar grasol grefyddol yn cyd fyw,
Bydd yno hir ffyddlondeb, cyd undeb yngwaith Duw,
Dewr hynod fydd y rheini, fel llaw yn helpu'r llall,
Cyd ddarllen, cyd weddio, cyd fyw, a gwilio gwal!.
Cant ddwyn eu Plant i fynu, a'u dysgu'n ofon Duw,
Gan fod yn Help a 'mgeledd i'w gilydd tro nhwy
byw,

Mewn Hawddfyd ac mewn adfyd yn hyfryd iawn cu

hynt,

Fel Isaac a Rebecca, rhai gafodd air da gynt.

'Nol bod yn gynorthwyol a llesiol un i'r llall,
I arwain bywyd Duwiol, rhinweddol yn ddi wall,
Pan ddarfo 'u Pererindod, braint hynod y fydd hyn,
Can' gyd 'tifeddu'r Goron byth fry ar Seion fryn.

AWAKE.

;

Up! up! let the morning thy orisons hear,
And kneel in thy chamber with reverence and fear
Ay, seek in thy hush'd words a guide for the day,
To protect and direct thee, a pilgrim of clay.
Up! up! list, the sweet birds are warbling a song
Of grateful enjoyment, I fain would prolong;
And, hark! how their music is mingling just now
With the breezes of morning, so plaintive and low.

Up! up! gaze around thee, all nature seems bright,
In vigour and freshness-in joy and delight;
Nay! lose not a moment, but haste, come away!
Or things now so lovely may fade and decay.

Up! up! lest to eye-sight may never return
The soft dawning beauty, and fragrance of morn,
The streamlet, the valley, the hill, and the tree,
With their precepts of tenderest mercy to thee.

Up! up! see the flow'rets are pointing above, And strong in mute language they breathe, "God is love;'

Then slumber not idly, but rise and adore
Their mighty Creator each day more and more.
Carmarthen.
ELIZA.

[merged small][graphic][subsumed][merged small][merged small]

Y Darlun uchod a osoda ger ein bron gladdedigaeth un o'r athrawon brodorol yn India. Ar lan y bedd, saif un o'r Cenadon, yr hwn sydd yn y weithred o anerch cymwynaswyr olai gweddillion marwol eu cyfaill ymadawedig; yn agos i'w arch hefyd, saif ei weddw dorcalonas, yn dwyn arwyddion galar ar ol ei phriod anwyl a hoff. "Gwynfyd y meirw, y rhai ydynt yn marw yn yr Arglwydd."

CYLCHDREMIAD Y MIS.

ACHOS Y DWYRAIN.

Y MAE yn ddrwg genym orfod cydnabod, nad ydym yn canfod fawr o obaith am derfyniad buan i'r achos gofidus hwn; ymddangosa fel yn myned yn fwy dyryslyd yn barhaus. Pan y meddyliem ein bod yn canfod gwawr yn tòri draw, ac y deuai y terfyn i'r golwg cyn hir; a phan yn edrych gyda theimlad pryderus am weled y diwedd, wele gymylau dûon yn cyfodi yn y gorwel pell, yn tywyllu ein rhagolygfeydd, yn terfynu ein gobeithion bywiog, ac yn ein llanw à siomedigaethau.

Pan yn ysgrifenu o'r blaen ar yr achos hwn, yr oeddem yn gobeithio y buasem yn fuan yn alluog i hysbysu ein darllenwyr, fod y rhyfel ar ben, a heddwch wedi ei adsefydlu rhwng y gwahanol deyrnasoedd; ond yn awr, y mae yn ymddangos mor bell oddiwrth hyny ag ar ddechreu y ffrwgwd. Y mae atebiad y Czar i Awstria wedi dyfod; ond oddiwrth hwnw nis gallwn gasglu y dibena pethau yn fuan iawn. Nid yw y cyhoedd wedi cael hysbysiaeth swyddol pa beth ydyw; ond cydunir yn gyffredinol ei fod yn cynwys y pethau canlynol:-Fod y Czar yn derbyn nodded y Pum Gallu i'r Cristionogion yn Nhwrci; ond yn honi breintiau neillduol i'w eglwys ef. Y mae yn foddlawn gwaghau y Tywysogaethau, os ymadawa y Galluoedd Gorllewinol â Thiriogaethau yr Ottoman, ac na fydd i Awstria fyned i mewn, yn ol ei chytundeb â'r Porte; ond y mae efe yn penderfynu cadw medddiant yn ochrau y Sereth, &c.

Y mae atebiad y Czar i gais Awstria, mewn gwirionedd, yn cynwys y sarhad mwyaf ar y Galluoedd cynghreiriol ag sydd wedi cymeryd arfau er gwrthwynebu Rwsia yn ei hymosodiad ar Dwrci. Y gallu hwnw, sydd wedi ei orchfygu ar y maes gan y Tyrciaid eu hunain-yr hwn, yn lle cymeryd meddiant o Gaergystenyn, fel y bostiai y gwnai er ys, ychydig amser yn ol, a orfuwyd i encilio oddiar lanau y Danube, wedi methu cymeryd Silistria, er iddo aberthu tua 25,000 o'i filwyr yn y gwarchae! Os ydyw ein llywodraeth ni, ac eiddo y Ffrancod, yn ddifrifol yn yr achos, bydd iddynt wrthwynebu y fath gynygion gyda'r dirmyg y maent yn ei deilyngu. Nid yw cynyg Rwsia ddim amgen nå hyn,-bod yn foddlawn i wneuthur heddwch, os ca hi bob peth y mae yn geisio. Am hawl i noddi y Cristionogion yn Nhwrci oedd hi ar y cyntaf; ac y mae yn foddlawn i wneuthur heddwch yn awr, pan y mae yn encilio o'r maes, os ca hi hyny !

Y mae dull y Czar yn gweithredu yn peri i ni ddrwg-dybio fod rhyw ddealldwriaeth dirgelaidd rhyngddo ef ag un, os nid y ddau, allu mawr Almaenaidd. Er fod cytundeb

wedi ei gadarnhau rhwng Awstria a'r Porte, a bod Rwsia wedi anfon ei milwyr i'r terfynau i wylied symudiadau Awstria; eto, yr ydym yn methu dwyn ein meddwl i roddi ymddiried yn Awstria: mae yn amlwg y gall hi fod yn anffyddlawn. Y mae ei gwaith yn ymddangos fel yn anffyddlawn yn awr i Rwsia, i'r hon y mae mor ddyledus, yn brawf o hyny. Os ydyw yn wirioneddol yn gwrthwynebu Rwsia, dyna hi wedi troi yn anffyddlawn i hen gyfaill; ac os trodd yn anffyddlawn i hen gyfaill, pa reswm sydd dros, na fydd iddi fradychu cyfaill newydd, os gwel ryw fantais iddi ei hunan oddiwrth hyny? Ac os nad yw felly yn wirioneddol, yna y mae yn ymddwyn yn fradwrus tuag at y Galluoedd Gorllewinol. Ymddengys ni nad yw Awstria, â'i 300,000 o filwyr, ond corsen ysig yn fwy tebyg o ddolurio llaw y neb a bwyso arni, yn hytrach nâ bod yn gynorthwy iddo. Nid oes amheuaeth gyda golwg ar ba ochr a gymer Prsia; ni fyn "Fred." fod yn wrthwynebwr i'w frawd-ynnghyfraith-gwrthoda gario i weithrediad ei ymrwymiadau i Awstria, ac ni chymeradwya waith Awstria yn anfon ei milwyr i gymeryd meddiant o'r Tywysogaethau Danubaidd. Yn ol pob ymddangosiad, y mae Prwsia wedi bod yn gweithredu yn dwyllodrus at Awstria, yn gystal ag at y Galluoedd Gorllewinol; a bod ei holl symudiadau yn yr achos yn cael eu llywodraethu gan y Barwn Budberg o St. Petersburg; a thu yma i gyfnewidiad buan gymeryd lle yn agweddiad pethau, tebygol y ceir ei gweled hi (Prwsia) yn gweithredu yn fwy dau-wynebog a gelyniaethus eto i les Ewrop yn y rhanau dyfodol o'r drama. Gan hyny, nid yw undeb y Pedwar Gallu ond enw; ac os dygir yr amryson hwn i derfyniad buan, rhaid ei fod yn cael ei ddwyn felly trwy weithrediadau egniol Ffrainc a Lloegr, yn gwbl annibynol ar Prwsia ac Awstria. Os cyd-weithreda y Galluoedd hyny, pob peth yn burion; ond nis gellir gosod ymddiried ynddynt.

Os nad oes rhyw ddealldwriaeth ddirgelaidd rhwng Nicholas a'r Galluoedd Almaenaidd, nis gellir cyfrif am ei ymddygiadau, ond ar y dybiaeth ei fod wedi ynfydu; oblegid y mae Ewrop yn ymddangos mewn cynghrair yn ei erbyn. Awstria wedi uno (mewn enw, o leiaf) â'r Galluoedd Gorllewinol, i anfon ei milwyr i'r Tywosogaethau, gan benderfynu gyru y Rwsiaid allan; mân deyrnasoedd yr Almaen wedi ymrwymo yn ddiamodol i ymlynu wrth y cytundeb AwsBrwsiaidd; ac y mae yn fwy nâ thebyg y, gwna Sweden a Denmarc yn fuan uno yn y cynghrair cyffredinol. Y mae yn ffaith fod yr olaf eisoes wedi difetha yr anmbleidgarwch a addawai ar y cyntaf, trwy ddarparu barracks i luoedd y Ffrancod. Ond er hyn oll, ac er fod y Tyrciaid eu hunain, heb gynorthwy ereill, wedi bod yn fuddugolfacthus ar y Rwsiaid ar faes y gwaed, eto

nid oes un arwydd fod un awydd yn Nicholas i roi fyny, na brys i ymadael â'r Tywys. ogaethau. Mae angen, ynte, i'n mawrion fod yn ofalus, rhag iddynt, trwy fod yn rhy awyddus am gael cydweithrediad Awstria a Phrwsia, gael eu tynu i'r fagl; ac y cânt eu hunain yn fuan, nid yn unig yn ymladd â Rwsia, ond hefyd ag Awstria a Phrwsia.

YSGRIF PRIF-YSGOL RHYDYCHAIN.

Mae yr ysgrif hon bellach wedi myned drwy Dŷ yr Arglwyddi. Bu ymdrech mawr yn Nhy y Cyffredin yn erbyn agor drws y Brifysgol i'r Ym'neillduwyr, heb iddynt arwyddo yr erthyclau; ac un ddadl a ddefnyddid yn erbyn hyny oedd, na fuasai yn ateb un dyben; oblegid pe buasai Tŷ y Cyffredin yn caniatâu hyny, y buasai Tŷ yr Arglwyddi yn sicr o daflu y fath ysgrif allan. Ond yn lle fod eu Harglwyddiaethau yn gwrthod yr ysgrif, y maent wedi ei gwella; ac yn hyn, dangosodd eu Marglwyddiaethau, | am unwaith, fwy o haelfrydigrwydd nâ'r Cyffredin. Yn awr, y mae y sefydliad hwn i fod at wasanaeth y genedl, ac nid yn hollol at wasanaeth un ran o honi, ar fail ei nodweddiad grefyddol. Hyderwn y bydd ym. drech yn yr Ymneillduwyr i lesoli eu hunain â'r cyfleusdra hwn i gyrhaedd y manteision at ddysgeidiaeth a gyfrenir yn Rhydychain; oblegid nid yw mwyach yn llwyr at wasanaeth y rhai a broffesant y grefydd sefydledig. Dysgwylir y dygir mesur o'r un natur yn mlaen y flwyddyn nesaf, mewn perthynas i Brifysgol Caergrawnt.

Y DDEILIADEB.

Buom yn mawr lawenhau wrth feddwl am ganlyniadau yr ymchwiliad yn 1851 i rifedi trigolion y wlad hon, yn nghyd a chael deall rhifedi cymharol yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Trodd y canlyniad allan yn fwy ffafriol i Ymneillduaeth nag oedd nemawr yn ddysgwyl trwy Gymru a Lloegr. Dechreuwyd meddwl y buasai y Llywodraeth yn debyg o dalu peth sylw i deimladau a cheisiadau yr Ymneillduwyr, y rhai nis gellid mwyach ddweyd am danynt, nad oeddynt ond nifer fechan a diwerth; ac wrth weled agwedd pethau yn eu perthynas â'r ddeiliadeb, y Dreth Eglwys, ac ysgrif Prif-ysgol Rhydychain, teimlir fod yr eglwys mewn perygl. Rhaid, ynte, godi yr wb-wb fawr yn erbyn y ddeiliadeb. Ymdrechir llanw meddwl y cyhoedd â rhagfarn yn erbyn cywirdeb hono. Dyma Esgob Rhydychain, (yr hwn, cofier, a wrthwynebai i'r fath ymchwiliad gael ei wneuthur, yn neillduol mor bell ag oedd bwriad i wybod dim am ein sefydliadau crefyddol) yn dechreu yr ymosodiad, ac Esgob Tyddewi yn ei gefnogi. Haera ei Arglwyddiaeth esgobaethol, gyda'r difrifoldeb hwnw sydd yn gweddu i ganlyniedydd yr apostol Judas Iscariot, pan yn dweyd celwydd, fod y dychweliadau wedi eu

gwneuthur gan weinidogion yr Ymneillduwyr, y diaconiaid, wardeniaid, a rhifwyr, mewn trefn i wneuthur pethau yn flasus i'r Ymneillduwyr. Pa fodd bynag, nid oes yn araeth y Parchedig Dad hwn ond cruglwyth o haeriadau noeth, heb ddwyn un ffaith yn mlaen i'w cadarnhau. Y mae, medd ef, y cyfrifon yn ddiffygiol, am eu bod wedi eu rhoddi gan weinidogion yr Ymneilldnwyr, ac offeiriaid yr Eglwys. Dangosodd y diffyg hwn ei hunan mewn ffordd rhyfedd iawn, os yw dywediad yr esgob yn wir. Gosododd y gweinidogion Ymneillduol fwy nag oedd yn perthyn iddynt i lawr; ond bu yr offeiriaid yn euog o wneuthur an nghyfiawnder â'r Eglwys, wrth osod i lawr lai nag a berthynai iddi! Ond, gofynwn, pa fodd y daeth ei Barchedigaeth i wybod hyny Ac hyd y nod hefyd pan oedd y gwaith o rifo yn dygwydd gorphwys ar wr lleyg, yr oedd yr un amryfusedd yn cymeryd lle-rhy fach i'r Eglwys, a gormod i Ym. neillduaeth! Hefyd, dywedir wrthym fod "yr Ymneillduwyr wedi llanw eu lleoedd o addoliad y diwrnod hwnw, mewn trefn i chwyddo eu cyfrifon." Os felly, y mae y ffigurau yn cynrychioli personau ag oeddynt yn weithredol yn yr addoliad ar yr amser; ac nis gall yr Esgob ei hun osgoi y canlyniad. A gofynwn drachefn, A ddarfu i'r Eg lwyswyr aros gartref y diwrnod hwnw, mewn trefn i ddangos gwendid yr Eglwys; neu, ynte, nad oeddynt hwy yn gofalu dim an dani? Os darfu iddynt, nid yw y rhifeyr yn gyfrifol am hyny, ac nis gellid dysgwyl i'r Ymneillduwyr beidio rhifo, am fod yr Eg lwyswyr yn aros gartref (os oeddent hefyd). Dywedai hefyd ei bod yn dywydd gwlyb, tel nas gallai yr Eglwyswyr fyned i'r Eglwys. Wrth gwrs, yr oedd yn wlyb yn mhob man, os oedd hi felly yn y man y trigai ei Barch. edigaeth; ac yr oedd yr Ymneillduwyr yn meddiannu gwell gwisgoedd nâ'r Eglwyswyc i wynebu y tywydd! Ond, sylwer, er fod yr hîn yn rhy wlyb i'r Eglwyswyr fyned i'r Eglwys, yr oedd yn ddigon sych i'r Ymneillduwyr, yn ol haeriad ei Arglwyddiaeth, i fyned o un plwyf i'r llall, lle yr oedd y cyfrif yn cael ei gymeryd, fel y maent wedi eu rhifo drosodd a throsodd ddwy neu dair gwaith! Dyna fath beth fyddai Sioni Twm Sion yn ei alw yn "gelwydd gwyn."

Esgob Tyddewi a ddywedai fod yn ei law amrai lythyrau yn cydgordio â'r hyn ag oedd y gwir Barch. Brelad wedi ei ddweyd yn barod. A dywedai am un capel Ymneillduol. dychweliadau yr hwn ar y dydd hwnw cedd yn 2,000; pan, yn ol tystiolaeth yr Ymneill duwyr eu hunain, y rhifedi mwyaf a ddalisi y cyfryw gapel oedd 1,200 o bersonau; ac yr oedd ganddo le i gredu fod dychweliadau yr Ymneillduwyr yn fwy mewn rhai manau nâ rhifedi trigolion y cyfryw leoedd. Ond ni wnaeth yntau gynyg un prawf o'i haeriadau ; ac nid yw wedi gweled bod yn dda i'n han

« PreviousContinue »