wyneb, ei wefusan rhosynaidd yn hanner agored, ei ddwylaw bach tewion wedi eu taflu dros y dillad, a gwên fel pelydr haul yn lledu dros ei holl wyneb. Machgen anwyli! druan oeddat ti!' ebe Liza, maen nhw wedi dy werthu di! ond mi fyn dy fam dy gadw di etto!' "Ni syrthiodd deigryn ar y gobenydd hwaw. Mewn cyfwng fel hwn nid oes gan y galan ddagrau i'w hepgor; gwaed yn unig ddifera o boni-gwaedu'n ddistaw y mae. Hi a gymerodd dammaid o bapyr, ac a ysgrifenodd ar frys a phensil fel hyn: "O mistres, fy anwyl fistres, peidiwch a meddwl fy mod yn anniolchgar-peidiwch a meddwl yn fach o honof ffordd yn y byd-mi gywais y cwbl a ddywedodd mistr a chwithas beno, Yr wyf yn myned i dreio achub fy ahlentyn-fedrweh ebi ddim fy meio! Duw a'ch tendithio, ac a dalo i chwi am eich ball garedigrwydd !' "Ar of plygu a chyfarwyddo ei llythyr ar frys, hi a wnaeth sypyn o ddillad i'r plentyn, y ban a gylymodd mewn bancas yn dyn am ei chanol; ac, mor dyner ydyw serch y fam, zid anghofiodd, yn yr awr gyfyng honne, ddodi en neu ddau o'i delmau chwareu yn y sypyn, a chadw llun parrot o bob lliwiau i'w ddifyru pan fyddai raid ei ddefro. Nid hawdd oedd defro'r cysgadur bach; ond, ar ol tippyn o and, efe a eisteddodd i fynu, ac a ddechrodd chwaren â'i aderyn, tra bu ei fam yn gwisgo ei bonnet a'i shawl. Ib'le rydach chi 'n myn'd, mam?' ebe e, pan aeth hi at y gwely i roddi ei gôt a'i gapa dano. "Hast, Harri,' ebe hi: paid a siarad yn bel, onite mi cly wan' ni. Mae dyn drwg yn myn'd i ddwyn Harri bach oddi ar ei fam, amya'da fo i ffwrdd yn t'wyllwch; ond neiff tam ddim gadael iddo-mae hi'n rhoi cap a crot ei bachgen bach am dano, ac yn myn'd i dd'engyd i ffwrdd efo fo, rhag i'r dyn hyll ei déal o." "Gyda dweyd hyn, hi a gauodd ac a fottymdddiad y plentyn, ac a'i cymmerodd yn ei brechian, gan sisial wrtho am fod yn ddistaw; ya hi a agorodd y drws, i'r verandah, ac a aeth allan yn ddistaw bach. "Yr oedd hi'n noswaith rewlyd, serenog, leu, ac fe gylymodd y fam ei shawl yn dyn y plentyn, yr hwn, yn ei ddychryn, druan, a afaelodd yn dyn am ei gwddf. "Yr oedd yr hen Bruno, ci Newfoundland mawr, yn gorwedd yn agos i'r drws, a phan glywodd y swn, efe a chwyrnodd. Ond pan alwyd ei enw gan ei hen ffrynd, efe a ysgydwadd ei gyuffon, ac a ymbarottodd i fyned gyda hi, er fod argoelion amlwg yn ei wynebpryd nad oedd yn deall yn iawn y pwrpas o ana yn anamhryd o'r nos. Ymddangosai fod petrusder neillduol yn ei feddwl; oherwydd fa yn fynych, gan edrych yn drallodus ar Eliza, ac wedi hyny ar y tŷ, ac fel pe buasai yn meddwi drachefn fod pob peth yn iawn, ai ar ei bol dan drottian. Yn mhen ychydig funndau, daethant at ffenestr Caban F'ewyrth Twm, lle safodd Eliza, ac y curodd yn ysgafn ar y fenestr. "Yr oedd y cyfarfod gweddi yn nhŷ F'ewrth Twm wedi parhau yn hir, yn enwedig y canu hymnau; a thrwy fod F'ewyrth Twm wedi dal atti i ganu ar ol hynny wrtho ei hun, y canlyniad fu, ei fod ef a'i ymgeledd gymmwys etto heb gysgu, er ei bod rhwng deuddeg ac un o'r gloch. Duw fo'n gwarchod! be sy'na?' ebe Modryb Cloe, gan neidio o'i gwely, a thynnu'r curtains o'r naill du. Fel 'rydw i'n fyw yn y fan yma, dyma Lizzy! Gwisga am danat, Twm, mewn munud! A dyna'r hen Bruno yn crafu'r drws-beth ar wyneb y ddaear! Dyma fi'n agor y drws.' "Ac ar y gair, dyna'r drws yn llydan agored, a syrthiodd y goleu o'r gan wyll oedd yn llaw Twm ar wyneb hagr a llygaid gwylltion Eliza. "Yr Arglwydd gymro drugaredd arnon ni, Lizzy, rydach chi ddigon a dychryn undyn! Ydach chi'n sal? neu be ddaru chi?' "Rydw i'n d'engyd i ffwrdd, F'ewyrth Twm a Modryb Cloe-ac yn myn'd a machgen bach hefo fi. Mae mistir wedi werthu o." "Wedi werthu o,' ebe'r ddau, fel adsain, gan godi eu dwylaw yn hanner gwallgof. "Ydi, wedi werthu o!' ebe Eliza, yn dalgryf; mi aethum heno i'r closet yn ymyl drws fy meistres, ac mi glywais meistr yn deud iddo werthu Harri, a chwithau, F'ewyrth Twm, i'r prynwr dynion, a'i fod yntau yn myn'd i rywle ar gefn ceffyl yn y bore, a'r dyn i gym'ryd meddiant heddyw.' "Fe safodd Twm i wrando ar hyn a'i ddwylaw ar i fynu, ei lygaid yn llydain agored, fel dyn mewn breuddwyd. Ond yn araf bach, ac o dippyn i beth, fel y dechreuodd ddeall, efe a syrthiodd yn ei ddeublyg, yn hytrach nag eistedd, yn ei hen gadair, ac a blygodd ei ben rhwng ei ddeulin. "Yr Arglwydd gymro drugaredd arnon ni!' ebe Modryb Cloe. 'O! 'does bossibi fod o'n wir! Be na'th o, fel rhaid i mistir i werthu fo ?' "Ni wnaeth o ddim yn y byd, nid dyna mo'r peth. Nid oes ar meistr ddim eisieu gwerthu, a misses-mae hi'n dda, bob amser yn dda. Mi clywais hi yn eiriol ac yn beggio drosom ni; ond fe ddeudodd yntau nad oedd dim wnai les-ei fod yn nyled i dyn yma-a bod y llaw ucha gan hwnnw-ac os na thalai y cwbl ar unwaith, fod raid gwerthu pob peth yn y lle, a phawb sy'n perthyn iddo, a mudo i rywfan arall. Do, mi clywais ef yn dweyd, nad oedd dim ond un o ddau beth-gwerthu'r ddau yma, neu werthu y cwbl, am fod y dyn mor galed arno fo. Fe ddeudodd mistir fod yn ddrwg iawn ganddo; ond, O! missis, mi ddylsech ei chlywed hi'n siarad! Os nad ydyw hi yn Gristion ac yn angel, ni fu 'run erioed. Yr wyf fi yn lodes ddrwg fod yn ei gadael hi fel yma! ond ni fedra i mo'r help. Hi ddywedodd ei hunan fod un enaid yn werth mwy na'r holl fyd; ac y mae gan y bachgen yma enaid, ac os gadawaf iddo gael ei gym'ryd ymaith, pwy wyr beth ddaw o hono? Rhaid fod hyn yn iawn; ac os nad ydyw yn iawn, Duw faddeuo i mi, oherwydd ni fedra i ddim peidio myned.' "Wel, Twm,' ebe Modryb Cloe, 'pa'm nâd ei ditha hefyd? nei di aros i gael dy ddragio i lawr yr afon, lle maen nhw yn lladd niggars hefo gwaith caled ac eisio bwyd? Fydda'n well gen i farw bob dydd o'r flwyddyn na myn'd yno." " * * CYWYDD, Myfyrdod y Bardd am ei hen ardal. Mae fy mron yn aflonydd ; O aur danau'r adeiniawl Safai, lle y gweuai gwydd, Is ael nant; sisial a wnai Drwy y dydd-myn'd ar ei daith. Rhyw dueddiad prydyddawl Yn nwys waith, fy nuwies wen, Aml rhown i hon fy mawl rhad; A dawn nef y deuwn I I dir o fan-goed deri. A phara yn offeiriad, I fawr drefn, arnaf rhyw dro: Ond llefais, gwaeddais, Dduw gwyn, Drwy gymoedd cawn fydr gymhwys. Yn helaeth farddoniaeth dda; Dedwydd gyfeillion didor, Y Ddraig Werdd a'i rywiog wawd: Daniel Ddu, dyn hael ei ddawn, Prydyddion parod oeddynt ; Gan ael Morwyllt, creigwyllt cry'; HYWEL GLAN CEFNI. DEIGRYN GALAR GWR AR OL EI BRIOD; Neu, Alar-gán Mary Harrison, priod anwyl Gwywodd holl hawddgarwch natur; Swn y corwynt blin a'r storom Ar wywedig gangau'r llwyn; Tawel ddygodd hirfaith gystudd; Nid achwynai er mor flin; Gawai dano, fal y crinllys, O dan awel rhewllyd hin. Trealiodd Mari dymor iechyd Er gogoniant Iesu Grist; A'i drugaredd a'i dyddanai Hithau yn ei badfyd trist; Cafodd fyw i Frenin Seion: Ac yn ngwasgfa angeu dwys, Cafodd ei ffyddlondeb graslon Iddı'n graig i roddi'i phwys. Draw ar lanau yr Iorddonen Yr eisteddai yn ddi fraw, I farwelio A'i hanwyliaid, A chariadus siglo llaw: Yna ciliodd, mewn tawelwch ;Cuddiwyd bi gan niwl y glyn;Golea'r dydd gadd ar yr afon ;Dygwyd hi at lesu gwyn. Boed priddellau mynwent Hermon Imi'n anwyl er ei mwyn; Yn alawon cerddi'r awel Dröent fy ngalarus gwyn; Yevaylau a eneiniont Dir ei bedd ag olew gwlith; Iraidd fyddo'r cof am dani, Dan fy mron alarus byth. HYWEL GLAN CEFNI. MIS IONAWR. Mis cer yw mis Ionawr-diaddurn yw'r bryn, A llynwynt oer, treiddgar ar foelfryn; Mewn llesmair nea esmwyth-hun erys yn awr O'i drobwynt gauafawl sy'n mhell iawn i lawr, Holl fodan y doldir wywasant yn llwyr, Tr irwedd geninen, a'r ywen hardd lun, Ni cha llymwynt Chwefror ddim parhau o hyd, Chem Tyleri. E. WYN O WENT. Dewch, llawenhawn, dewch llawenhawn, A chynal noswaith lawen wnawn, Na theimlo unrhyw groes; Pan ddelo oes y ddeuddyn fad, Pob llwydd i deulu'r hyfryd LwYN- Cyn aiff eu cof o Abercarn Daw'r hen Dwmbarlwm lawr yn sarn. 81 I Mr. Israel Thomas Jacob, Swyddfa SEREN I euane gyfaill, awydd mawr M wynhau ffrwyth dy feddwl rhydd; S eren oleu f'ot i'th wlad. I dy iaith, O bydd yn blaid, Gelligroes. ANEURIN Fardd. I SEREN GOMER. Yn yr entrych amranta-ein SEREN Mawr ddysg yr hen GOMER dda, Trwy hon o hyd der wena. HYWEL GLAN CEFNI. SYDD un o ynysoedd eangaf India Orllewinol, a ddarganfyddwyd gyntaf gan Eirec Goch, pedwar can mlynedd cyn Columbus. Efe hefyd oedd yr Ewropiad cyntaf a ddarganfyddodd America. Mae Haiti yn Ymherodraeth annibynol. Ei maint yw 29,400 o filldiroedd ysgwâr; ei phoblogaeth, yn ol y cyfrif a wnaed yn 1826, oedd 1,200,000, yn Negroaid, Cymysgiaid, ac Ewropiaid. Mae gan y Bedyddwyr Orsaf Genadol yno. Yr achod sydd ddarlun o'r Bedydd cyntaf yn yr ynys. "Datganant ogoniant yr Arglwydd yn yr ynysoedd." CYLCHDREM Y MIS. AGWEDD FOESOL Y CYMRY. [Reports of the Commissioners of Inquiry into the state of Education in Wales.] ANNIWEIRDEB yw yr ysmotyn duaf yn nghy. meriad cenedl y Cymry. Mae wedi darostwng y Cymry fwy yn nghyfrif gwledydd ereill na dim arail. Nid ydys yn dywedyd fod basdarddiaeth yn fwy yn Nghymru nag yw mewn gwledydd ereill : nid yw felly, fel y gwelwn wrth y llechresau cyferbyniol ag sydd ger ein bron; ond dylasai fod llawer yn llai; canys mae breintiau crefyddol y Cymry yu fwy. Yn y flwyddyn 1847 anfonodd y Llywodraeth genadon trwy Gymru, i chwilio ansawdd dysg a moesoldeb y genedl. Galwai y cenadon byn gyda gwŷr llên a gwŷr lleyg, i gael ea barnau ar y pwne. Cyhoeddwyd eu hadroddiadau yn dair cyfrol, mewn clor. ian gleision. Rhydd y cyfrolau hyn olwg drychinebus ar ansawdd ein cenedl. Pell ydymo feddwl y gwnai y Commissioners hyn yn fwriadol gamliwio na chamarwain,-ac ni allasem ui uno yn yr wbwb fawr a gyfodid yn erbyn y Llyfrau Gleision; er hyny, mae yn amlwg taw ar ochr dduaf nodweddiad y genedl y darfu iddynt sylwi fwyaf. Er dawni eu gwaith yn ddihoced, teg fuasai ynddynt edrych ar ragoriaethau y genedl yn tal a'u gwaeleddau. Yr oedd y gorchwyl a roddwyd i'r cenadon hyn, o ran hyny, yn fwy na allesid dysgwyl iddynt allu ei wneud -a hwynt ddim ond cymeryd gwibdaith yn mysg cenedl-ac hefyd yn anadnabyddus o'n biaith a'n harferion; ac ystyried hyny, rhyfedd iddynt wneud cystal. Rhoddwn rai talfyrion o'r Llyfrau Gleision, fel y cenfydd y darllenydd y modd ein darlunir yn yr adroddiadau hyn. Golwg isel sydd ar foesoldeb cenedl y Cymry yn yr adroddion amlag a geir ynddynt; ond nid y Commissioners sydd i'w beio fwyaf os camddarlunir, canys rhoddwyd iddynt y desgrif. inden duaf gan wŷr parchedig o Gymry. Beth bynag, yn lle maldodi ein gilydd, na gwastraffu amser i ffonodio y rhai a godent ein godreon, byddai yn well i ni ar unwaith i gwympo ati o ddifrif i ddiwygio a choethi arferion ein cenedl. Telfyriad o Lythyr y Parch. J. W. Trevor, Offeiriad yn Môn. "Y mae yn anhawdd, yn gystal ag yn ofidus, desgrifio mewn ymadroddion priodol sefyllfa waradwyddus y bobl gyffredin yn Nghymru, gyda golwg ar gydgyfeillach y ddau ryw; ond y mae o bwys i'r gwirionedd gael ei wybod. Yr wyf yn credu fod cyfartalrwydd plant annghyfreithlawn i'r boblogaeth yn fwy yn Mon (xda dim ond un eithriad, a hono yn Nghymru) nag eiddo unrhyw sir arall yn y deyrnas. Y mae y ffaith hon yn ddigon i brofi iselder moesol ein pobl gyffredin. Ond rhaid i mi dynu eich sylw yn fwy neillduol at rai adroddiadau ar y mater hwn, y rhai a ddangosant i chwi ar unwaith yr hyn y dymunwyf ei wneud yn hysbys, sef fod egwyddorion moesol pobl Cymru yn hollol lygredig ac anfad yn y pwne hwn; fod yn anmhosibl i unrhyw attalfeydd na chosbedigaethau o eiddo y gyfraith wella, nac hyd y nod leihau y drwg, hyd nes y dysgir hwy, trwy y defnyddiad o addysg well, a gwareiddiad mwy cyffredinol, i edrych ar eu harferion presenol, gyda theimlad o gywilydd a gweddeidd-dra. Yr wyf yn awr yn gosod o'r neilldu yr ystyriaeth o bob egwyddor uwchoblegid nid ydyw y cyfryw i gael edrych arnynt yn bresenol. Tra y parha y gwahanol rywiau gyd-ymgymysgu fel anifeiliaid, ofer yw dysgwyl y gellid eu hattal gan grefydd na chydwybod. Yr wyf yn haeru gyda sicrwydd, fel ffaith anwadadwy, nad yw anniweirdeb yn cael ei ystyried fel drwg, nac hyd y nod braidd fel gwendid, gan y bobl gyffredin yn Nghymru. Y mae yn cael ei ystyried fel mater o angenrheidrwydd-fel y llwybr arferedig rheolaidd i'r ystâd briodasol. Y mae yn cael ei addef, ei amddiffyn, ac hyd y nod chwerthin am ei ben, gan y naill ryw yn gystal a'r llall, heb betrusder na chywilydd, nac un ymgais i'w gelu. A pha beth, os, fel y mae yn dygwydd yn fynych, y bydd i'r dyn brofi yn anffyddlawn, ac i briodas beidio cymeryd lle, ac eto i blentyn gael ei eni? Yna y mae y gorchwylo dyngu y plentyn yn dyfod yn mlaen, a chydag ef, fel y mae y gyfraith yn awr yn gofyn, yr holl ddynoethiad aflan o'r anlladrwydd a'i blaenorodd. Yn awr, mi a adroddaf rai ffeithiau fel y daethant o dan fy sylw I fel heddynad, a chwi a gofiwch eu bod yn cael eu gwrandaw gan y cyhoedd o bob oedran a rhyw: "Geneth ienane a ddygwyd yn mlaen i gymeryd ei llw ei bod hi yn eistedd wrth y tân, tra yr oedd ei mam weddw yn y gwely gyda'i charwr yn yr un ystafell; a hyn a wnaeth ar amryw achlysuron. "Yr oedd un arall yn cymeryd ei llw ei bod hi yn sefyll yn ymyl, ar ganol dydd goleu, ac yn yr awyr agored, tra y cyflawnid y weithred a wnaeth ei chyfeilles yn fam basdarddyn. "Fod dyn mewn gwely gyda dwy ddynes, nos ar ol nos, am fisoedd yn nghyd, a chymerodd un o'r merched ei lw i'r ffaith ofynedig. "Daeth rhieni, neu ynte un o honynt, yn mlaen i brofi tadogaeth plentyn ordderch en merch--hwynt-hwy eu hunain yn fynych yn dystion o'r weithred. "Gallwn luosogi y cyfryw engreifftiau i brofi yr hollol ddiffyg o weddeidd-dra naturiol cyffredin a chywilydd yn mysg y bobl. "Cafodd y dystiolaeth uchod ei rhoddi (ac felly y rhoddir hi bob amser, heb ond ychydig eithriadau) heb y gronyn lleiaf o anewyllysgarwch na gwyleidd-dra, a chyda'r fath wamalrwydd ac cofndra ag oedd yn profi fod y personau yn hollol galed, ac wedi eu hamddifadu o bob teimlad o gywilydd." Y talfyriad nesaf a roddwn sydd yn rhoddi darluniad o foesau y Deheudir, sef eiddo y Parch. H. L. Davies, offeiriad Troed-yr.aur, swydd Aberteifi. |