Page images
PDF
EPUB

san ereill yn molianu. Yr oedd Paul a Silas yn gweddio a molianu eu Duw ar haner ncs yn ngbarchar Philippi, prif-ddinas Macedonia, nes yr oedd eu cydgarcharorion yn methu a chysgu; ond mae llawer o wrandewyr yr efengyl ag y byddai yn hawddach eu cadw yn effro wrth dewi nag wrth addoli a molianu.

5. Yna y mae gwrando yr efengyl, yr hyn mis gellir ei wneud wrth gysgu. Yr oedd Crist yn effro pan yn darparu y drefn. Nid wrth gysgu y llafuriodd ac y myfyriodd y llefarwr, ac edrychid arno gyda syndod pe cymerai gyntun ganol ei bregeth; ond y mae rhai gwrandawyr wedi cynefino yn cysgu wrth ei wrando. Os yw y pregethwr yn wael, a'r bregeth yn ddiafael, mae ganddo destun digon pwysig, ond ei iawn ystyried, i'th gadw di yn effro; a thi a ddylit fod yn efro, yn gweddio dros y pregethwr am i Deus arddel ei genadwri. Mae dy enaid yn werthfawr, trefn cadw yn ogoneddus, uffern yn ofnadwy, y nefoedd yn odidog, ac araser cymeradwy yn fyr ac ansicr: byay ni ddylit gellwair â hwy trwy gysgu mewn addoliad.

AD-NODIADAU.

am

[blocks in formation]

TRANCEDIGAETH 1852.

NETHIWR, pan oedd llwyd gyflychwyr" wedi tuddo yn ei liw cynefin bob rhyw beth, canais fy llygaid, a pha un ai yn nghwsg ai n effro, ai ynte rhwng y ddau yr oeddwn, nis gwn yn iawn, ond dychymygais fy mod yn gweled a chlywed fel y canlyn:-Yr oedd benaf-wraig yn gorwedd ar wely o ddail erinion-ei gwallt oedd wyn gan y barug-ei llais oedd grug a garw-ei llun oedd agos mor grin a'r dail y gorweddai arnynt-a'i bunig gwrlyd oedd mantell o eira un-nos. Deallid wrth ddystawrwydd ei chalon a byrdra ei hanadl, fod ei hawr olaf yn agoshau. Gwyddwn heb ofyn i neb mai y flwyddyn 1952 oedd yr hen wraig a welwn; a chan fod pawb o fy narllenwyr yn ei chofio yn feinir Bow, a'i grudd yn goch, a'i thraed yn ysgafn, hwyrach na fydd yn ddrwg ganddynt glywed rhai o'i hymadroddion olaf. Yr oedd ei merch Rhagfyr, yr olaf o'i deuddeg plent, yn parhau i gynal pen ei mam yn ei gd; ond nid yw hithau yn debyg o fyw

66

yn hir. Tybia meddygon goraf y bydd y fam a'r ferch farw ar unwaith. Dyna rai o'r ymadroddion a gesglais oddiar dafod floesg yr henaf-wraig. "Merch ydwyf fi," ebe hi, "i Amser, a myfi ydwyf y diweddaf o'i epil luosog; bu i fy nhad bum mil, wyth cant a deuddeg a deugain o honom ; ond ni bu ganddo erioed ychwaneg nag un ar unwaith. Y mae yn rhaid i un o'r plant farw yn wastad cyn i un arall gael ei eni. Meddylia rhai fod yr hen ŵr ei hun yn dechreu adfeilio bellach, ac y bydd iddo wedi genedigaeth ychydig ganoedd o honom yn ychwaneg, weled ei deulu yn gyflawn, a marw ei hunan." Yna galwodd yr Hen Flwyddyn am ei llyfr cyfrif, ac edrychodd dros ei ddalenau gyda llygaid llawn. Ymddengys ei bod wedi cadw cyfrif manwl o'r holl fynydau, oriau, dyddiau, a misoedd, a roddasai allan; ac hefyd wedi cofnodi yma a thraw pa fodd y treuliasid hwynt. Rhy faith fyddai ysgrifenu yma y cwbl a ddywed. odd yr hen wraig ar y pen hwn, gofyned pob darllenydd i'w gydwybod ei hun pa achwyniadau allasai hi ddwyn i'w erbyn ef. Ond rhaid sylwi ar un amgylchiad. Wrth edrych ar un tudalen o'i llyfr gwelwn y dagrau yn llifo dros ei gruddiau llwydion. Ni allwn lai na gofyn yr achos. Yma (ebe hi) y mae cofrestr o ddeg Saboth a deugain fy mywyd, y rhai hyn oeddynt fy rhoddion penaf, ac eto y rhai hyn a ddirmygwyd ac a wastraffwyd fwyaf gan blant dynion. Nid oedd genyf ond deuddeg a deugain o honynt i'w rhoddi,-O leied o sylw sobr a defnyddiol a dalwyd iddynt! Yn fy mabandod yr wyf yn cofio clywed myrddiynau yn addef yn uchel y cysegrent bob dydd i wasanaeth y nef, os caent eu harbed yn fyw yn fy nghwmni hyd ddiwedd fy ystod. Eiriolodd un ar eu rhan, Gad ef y flwyddyn hon eto,' a llwyddodd. Wrth eu cyfarch bob boreu, fy nyledswydd oedd gofyn iddynt dros fy Nghreawdwr, Pa le mae yr adduned? Yr ydych chwi a minau heddyw yn nes i'r farn nag erioed. Nid oes nag edifeirwch na maddeuant yn y bedd,-Pa le mae yr adduned? Fel hyn y byddwn yn gofyn, ond gwawd a chrechwen a gefais yn dâl am fy ngofal gan lawer iawn. Y mae eu hadduned heb gael ei thalu eto; ac y mae yn debyg y bydd raid i mi eu gadael yn ddyfnach mewn bai, ac yn galetach mewn ysbryd, nag erioed. Ond yr wyf yn teimlo mwy o dosturi nag o ddigter tuag at y trueiniaid hyn. Y maent yn elynion llawer mwy creulon iddynt eu hunain nag ydynt i mi. Arferasant lawer dull i fy anmharchu, ond iddynt hwy y mae y dirmyg. Cyflogasant fintai o gamladron i fy ysbeilio, ond iddynt hwy eu hunain y gwnaethant y golled. Y gwaethaf yn y fin tai oedd un a elwid Mr. Oedi, hen elyn a wnaeth lawer o gam i fy nhad a'm holl hiliogaeth. Yr oedd gan hwn dri o gyfeillion o'r un reddf a dyben drwg ag yntau--- Cusg,

[ocr errors]

Diogi, a Phleser. Ni ŵyr neb pa faint a ddyoddefais oddiwrth y dyhirod hyn. Ond y mae diwrnod wedi ei ordeinio pan y gelwir holl drigolion y byd i roddi cyfrif am y modd yr ymddygasant tuag ataf. Dielir am fy anmharch ar bawb a fernir yn euog.

Yr

"Am danaf fi, rhaid i bawb gyfaddef i mi wneud fy nyledswydd tuag at elynion a chyfeillion. Cynorthwywyd fy ymdrechion gan fy neuddeg plentyn bob un yn ei dro. oedd eu gwedd a'u tymher, yn wir yn am. rywio, ond daioni a darddai yn y diwedd oddiwrthynt oll. Gwedd led arw a wisgai fy nghyntaf-anedigion; eto, ni wnai eu teim. lad oer a'u hanadl lem, ond teneuo epil pryfaid niweidiol, a phuro yr awyr oddiwrth ddefnyddiau afiechyd ac annghysur. Ond meiriolwyd llyffetheiriau y ddaear gan anadl olaf Chwefror; a chyn hir daeth fy mhlant yn Alban Eilir, i hilio y berllan lom â dail a blagurion, ac i ddwyn eu hanrhegion o flodau cynar a phêraroglaidd. Bachgen brochus, anfoneddigaidd oedd Mawrth, ond dan ei holl ymddygiad ystormus, cuddiai galon dda. Daeth Mai a Mehefin yn olynol, wedi eu coroni â'r haul, a'r rhos-gochion yn eu dwylaw, hoffder pa rai oedd dawnsio ar y twmpath glas, yn ymyl y llyn, i chwibaniad Hleddf yr awel foreuol. Geneth lariaidd oedd Gorphenaf-wylodd lawer o herwydd claddu ei chwaer Mehefin. Bu Medi farw yn nghanol pelydr yr haul; ac yn ei hangladd cânodd y Fedel Fawr nes diaspedain y clogwyni."

Daeth rhyw grynfa dros yr hen wraig y pryd hyn; gwnaeth ei mherch Rhagfyr gymaint ag a allai erddi, ond byr oedd ei gallu ac oer ei llaw; anadlodd allan ei hysbryd, a chymerodd documents y flwyddyn ar ei haden efo, i swyddfa tragywyddoldeb, i aros nos Sadwrn y cyfrif.

Peidiwn a'i annghofio. Gwlad yr annghof yw y bedd. Gwyddom trwy brofiad a hanes, bod rhai yn annghofio eu perthynasau agoraf pan ânt yno. Gwlad yr annghof yw mynwent ein blynyddoedd hefyd. O! faint sydd wedi eu hannghofio yn y pentwr! Braidd na baem wedi annghofio 1852 yn barod. Galwn hi i gof. Meddyliwn am ei chynghorion a'i phregethau.

Ni ddaw hi byth yn ol. Mae y golled yn anadferadwy. Hebryngwyd llawer corff i fynwent y llan, ni ddaeth yr un o honynt byth yn ol; a hebryngwyd yr holl oesoedd i fynwent y blynyddau, ond ni ddaeth yr un foment byth yn ol. Pa waith bynag a esgeuluswyd, ni wneir mo hono yn 1852. Ni chawn ni ddywedyd gair wrthi hi, ac ni ddywed hithau air wrthym ninau byth mwy. Ni roddir 1852 yn ddate wrth na bill, na llythyr, na chopy byth mwy. Nid oes neb byth mwy i edifarhau, credu, cael eu derbyn yn aelodau eglwysig yn 1852. Y dyn diweddi, ni chlyw 1852 weddi byth o'th enau, ni bydd hono ddim yn gwybod yn y farn a

Os

fuost yn gweddio erioed ai peidio. Estynodd lawer cymwynas yn dymorol ac yn ysbrydol. Llawer Saboth a phregeth i'r enaid, a llawer pryd o fwyd i'r corff, ond cawn newynu cyn yr estyna yr un ond hyny. ceir maddeuant pechodau a choron cyfiawnder, nid 1852 fydd y date. Pe byddai i ni fyned i fynwent y blynyddoedd, a gwaeddi, 1852, 1852, ni byddai na llef na neb yn ateb.

Daw olafiaid y flwyddyn ddiweddaf at ein beddau ninau. Os buom yn edrych ar 1852 yn gyru allan ei hanadl ddiweddaf, daw 1853 at wely angeu rhai o honom ninau. Os claddasom 1852, cladd 1852 rai o honom ninau. Os gwisgasom ein galarwisgoedd ar ol y fam, efallai y daw y ferch i wisgo ei galarwisgoedd ar ein hol ninau. Mae rhai o'r teulu yn sicr o ddwyn gwelltglas i orchuddio ein beddau oll.

O flwyddyn i flwyddyn, cleddir yr holl flynyddau cyn hir. Bydd rhyw angel yn sefyll, ac un troed ar y môr, a'r llall ar tir," ac yn pregethu yn angladd amser, oddiwrth y geiriau hyny, "Ni bydd amser mwyach." Diwrnod ei gladdedigaeth, cyfyd y meirw yn anfarwol, ac ni bydd amser i ddifa eu cryfder mwy.

Mae ysbryd y flwyddyn a gladdwyd i'n cyfarfod eto mewn barn. Soniwn yn aml fod ein hamser yn llithro i dragywyddoldeb, ac y byddwn ninau yno yn fuan yn ei gyfarfod. Ysbryd ein hamser yn unig fydd yno, ac nid dyddiau, wythnosau, a blynyddoedd, fel yma. Mae ysbryd blynyddoedd wedi eu camdreulio yn fwy peryglus nag ysbryd neb arall. Dyma y tystion cyflymaf yn erbyn yr annuwiol. Dygant i gof yr holl bethau a annghofiwyd. Os oes ofn ysbryd 1852 arnom, mae modd blotio ei thystiolaethau, taflu ei documents i ddyfnderoedd y môr. Dyma ni yn gadael y flwyddyn 1852, ac ar y laf o Ionawr, 1853, yn dymuno blwyddyn newydd dda i holl Gymru."-Y Gwlad

garur.

DECHREUAD Y DEGWM.

LLITH I.

MAE yr ymchwilgar yn awyddus i wybod dechreuad pethau-dechreuad y nant, yr afon, y castell, y monachdy, eglwys y plwyf, y capel, y ddinas, &c. Mynych yr ymofynir am ddechreuad y degwm. Yr Hen Destament a'n hysbysa am ddechreuad y degwm Iuddewig. Mae yr Hen Destament a'r Newydd mor fud a'r bedd am ddechreuad y degwm sydd yn awr, oddieithr ei fod yn gynwysedig mewn proffwydoliaeth am y Dyn Pechod.

Y Testament Newydd ac Hanesiaeth yr Eglwys a'n hysbysant fod y Cristionogion cyntefig yn cyfranu i gynorthwyo eu gilydd ac ereill yn unig oddiar yr egwyddor wir foddol. Y Cristionogion yn Jerusalem a'r

J

1

cymydogaethau ag oeddynt berchenogion tiroedd neu dai, a'u gwerthasant i gynorthwyo yr anghenus. Y Cristionogion yn Antiochia a anfonasant gymhorth i'r Cristionogion yn Judea; eglwysi Galatia a Corinth a wnaent gasgl i'r saint yn wythnosol yn ol es gallu. Tertullian, yr hwn a aned yn Carthage, tua'r f. 150, a ysgrifenai yn ei Apologet, ch. 39, fel hyn,-"Beth bynag sy genym yn Nhrysorfa ein heglwysi, ni chodir drwy drethiad, fel pe baem yn gosod dynion i brynu eu crefydd, ond pob dyn yn fisol, neu pan fyddo yn dewis ei hun, a rydd y peth a wel yn dda, ac nid heb ei ganiatâd; oblegid ni orfodir un dyn, ond gadewir ef yn rhydd at ei gallineb ei hun; a'r hyn a roddir i chyfranir yn ofer, ond i ddiwallu y thed, ac i blant amddifad o rieni, a chynaliaeth yr hen a'r methedig, dynion gafodd golled ar y môr, a'r fath a gollfarnir i'r mia-gloddiau, a alltudir i ynysoedd, neu a deffir i garchar, yn proffesu y gwir Dduw a'r ffydd Gristionogol." Yn ol ysgrifeniadau Tertullian, Origen, Eusebius, Cyprian, ac ereill, parhaodd y dull uchod o gyfranu yn yr eglwys byd tua'r fl. 304. Tua'r amser hyny dechreuodd dynion da a chyfoethog roddi tiroedd at wasanaeth yr eglwys, a'r cyllid oddiwrthynt a ddygid i Drysorfa yr eglwys, fel rhoddion ereill, ac a gyfranid gan y diaconiaid fel byddai yr angen. Origen, yn ei 16 Homily ar Genesis, vol. 28, ch. 3, pan yn anerch ei gydweinidogion, a ddywedai, "Nid yw yn gyfreithlon i un gweinidog eglays feddianu tiroedd a roddir at yr eglwys, at ei wasanaeth ei hun. Gadewch i ni ymadael ag offeiriaid Pharao, a fwynhant feddjanau daearol, at offeiriaid yr Arglwydd, y rhai nad oes rhan ganddynt yn y ddaear." Mae yn gweddu i ni fod yn ffyddlon wrth ddosbarthu ardreth yr Eglwys, fel na fyddo i ni ein hunain ddifa y pethau hyny a berthynant i'r gweddwon a'r tlawd, a bydded i ni fod yn foddlon ar ymborth cyffredin, a dillad angenrheidiol." Urban, offeiriad Rhafain, yn ei Epist. c. 12, q. i. c. 161, yn y fl. 227, a ddywedai, "Y gallai yr eglwys dderbyn tiroedd a meddianau a offrymid gan y ffyddlon, ond nid er lles un neillduol, ond y cyllid oddiwrthynt gael ei gyfranu fel offrymau ereill, fel byddai yr angen yn galw." Cyprian, Esgob Carthage, yn ei Epist. 27, 34, 36, tua'r fl. 250, a'n hysbysa fod yr eglwys yn cynal amryw dlodion, bod ei hymborth ei hun yn syml, a'r draul yn ychydig.

Cynghor Antiochia (gwel Con. Ant., cap. 25) yn y fl. 340, a benderfynodd osod meddianau yr eglwys o dan ofal yr esgobion, yn lle y diaconiaid, ond dymunai ar yr esgobion i beidio cymeryd un ran o hono eu hunain, na rhoddi dim o hono i'r offeiriaid, na'u brodyr ag oedd yn byw gyda hwy, heb fod angen am hyny. Tua'r fl. 400, y dechreuwyd son am y gair degwm. Yr esgobion a

farnent nad oedd y Cristionogion yn cyfranu digon at grefydd, y dylasent hwy, fel yr Iuddewon gynt, gyfranu y ddegfed ran. Chrysostom, yr hwn oedd yn byw oddeutu y fl. 406, yn ei Hom. 11, in Acta Tom., 6 edit. p. 397, a ddywedai ei fod yn barnu nad oedd yn addas i'r bobl gyfranu llai na'r ddegfed ran. Hierom (Adear. 3, Mal.), a'u hanogai yn ddifrifol i gyfranu yn helaeth i'r tlodion, roddi parch deuddyblyg i lafurwyr yn ngwaith yr Arglwydd, ac na ddylasent fod yn fyrach yn eu cyfraniadau na'r Iuddewon o dan y gyfraith. Ambrose, Esgob Milan, yn nghylch y fl. 400, yn ei bregeth ar Edifeirwch, yn llawn tân, a soniai lawer am y ddegfed, crybwyllai am gyfraniadau yr Iuddewon o dan gyfraith Moses, a bygythiai y bobl, os na thalent y ddegfed ran, y darostyngai Duw hwy i'r ddegfed. Augustin, Esgob Hippo, a gyfansoddodd draethawd cyflawn ar Ddegwm; galwai y rhai na feddent gynyrch y ddaear, i dalu y ddegfed ran o beth bynag a feddent at eu cynaliaeth; a dywedai mai esgeulusdod o daliad y degwm oedd yr achos o ddiffrwythder a malldod; a chydunai ag Ambrose i chwythu bygythion,-y darostyngai Duw hwy i'r ddegfed; ac haerai os na thalent y degwm, y buasent yn euog wrth orseddfainc Duw o farwolaeth yr holl dlodion ag oedd yn marw o newyn; a chymhellai y rhai oedd am faddeuant pechod, a gwobr yn y nef, i dalu y degwm. Leo, yr hwn oedd Bab o 440 i 460, a ymdrechai gyffroi y bobl i offrymu rhan o gynyrch y ddaear i'r eglwys; ond ni chrybwyllai pa faint. Severin, oddeutu y fl. 470, a ddywedai wrth y Cristionogion yn Panonia, ei fod ef yn talu y ddegfed ran o gynyrch y ddaear i'r tlodion, a chymhellai hwythau i wneud yr un peth. Gregory, Esgob Nazianzum yn Cappadocia, oddeutu y f. 360, a gynghorai y bobl i offrymu y ddegfed ran o'u meddianau a'u hamser: meddai, "Gorchymynir i ni yn y gyfraith i roddi y ddegfed o bob peth i Dduw." Er holl anathemau yr esgobion uchod ac ereill, nid oedd athrawiaeth y degwm yn cael ei derbyn yn gyffredinol. Ond yr oedd y lefain yn gweithio yn raddol yn y blawd. Yn nghylch y fl. 600, yr oedd yn cael ei derbyn yn lled gyffredinol. Yr oesau hyny defnyddid golud yr Eglwys yn y dull canlynol: --Yr oedd Trysorfa Gyffredinol yn mhob Esgobaeth, a llifai yr holl olud o fewn cylch yr Esgobaeth i'r Drysorfa: cyfranid o honi un ran o bedair i'r offeiriad; un ran o bedair i gynorthwyo y tlodion, y cleifion, a'r dieiriaid; un ran o bedair i adeiladu ac adgyweirio lleoedd addoliad; ac un ran o bedair i'r Esgob. Yn gyffredin byddai yr Esgob yn byw mewn monachdŷ, a'i offeiriaid gydag ef; anfonai hwy i bregethu o fewn cylch ei Esgobaeth, dychwelent hwythau i'r Drysorfa, yr hyn a dderbynient am eu llafur. BRAN AB LLYR.

22

HANES ROBERT JONES, &c.

YCHYDIG O HANES BYWYD MR. ROBERT JONES, LLYNLLEIFIAD. (Yn ol ei enw Barddonol, &c., ROBIN GOCH, yr hwn a fu farw Chwefror 8fed, 1850.) TRA adnabyddus ocdd y dyn teilwng uchod yn SEREN GOMER am lawer o flynyddoedd cyn ei symudiad o'r fuchedd farwol bresenol. Yr oedd, fel gŵyr llawer ag sydd heddyw yn fyw, yn meddu ar archwaeth a chynildeb neillduol at bob dysgeidiaeth fuddiol, pa un bynag ai gwladol, masnachol, neu grefyddol, yr oedd ef yn alluog i roddi barn dra chywir am y naill a'r llall, heibio i'r rhan amlaf o'i gyfoedion. Yr oedd ei feddwl ëang yn weithgar a llafurus pa le bynag y byddai, gartref neu oddicartref; byddai yn casglu gwybodaeth oddiwrth ei gyd-ddynion, pa un bynag ai isel neu uchel, dysgedig neu anllythyrenog fyddent. Ni ddiystyrai y mwyaf gwerinaidd ac anwybodus; ac ni chymerai arno, er ei lwfrhau, ei fod ef yn gwybod mwy nag yntau; ar yr un pryd yr oedd yn medru cyfranu goleuni i hwnw, braidd heb yn wybod iddo, ac a fyddai yn llesiol iddo ar ol eu hymadawiad.

Os dygwyddai fod yn y gyfeillach rywun dysgedig yn y celfyddydau, gallai R. Jones ei ddyddanu, a'i ddwyn yn mlaen i adrodd ei wybodaeth yn rhwydd a digymhelliad, fel y byddai y cyfryw yn rhwym o feddwl yn uchel am ei gynneddfau eneidiol. Yn neillduol, os rhifyddiaeth yn ei changenau uchaf, yr oedd ef yn ei elfen yma; os daearyddiaeth, yr oedd yn hynod gofus yn y rhan hon o ddysgeidiaeth, wedi dechreu yn o foreu yn y llafur uchod, ac wedi ymdrechu yn ddiflino pan yn ieuanc, a pharhaodd yr un duedd ynddo hyd derfyn ei oes fèr, sef prin dwy flynedd a deugain, fel y cawn ddangos rhagllaw.

Barddoniaeth oedd yn hyfrydwch mawr iddo ef bob amser, pa un bynag ai gweithiau y Saeson enwocaf, neu gyfansoddiadau rhagorion Cymru ar iaith wen, yr oedd yn hynod hyddysg yn y naill a'r llall, fel yr oedd yn anhawdd i'r cyfarwydd goffâu llinell o neb o honynt na byddai Robin Goch wedi bod yn lloffa yn yr un meusydd; a thebyg iawn y deuai ef ag amryw ddifyniadau o'i gof rhyfeddol, nes synu ei gyfaill neu ei gyfeillion. Ni ddaeth nemawr lyfr barddonol allan yn yr ugain mlynedd ddiweddaf o'i oes, na fynai ef afael ynddo; heb son am weithiau yr hen Feirdd, o amser Taliesin hyd Gronwy a Lewis Morris, yn gystal a'r enwogion ag oeddynt yn cydoesi ag ef, rhy faith i'w henwi. Hoffai yn fawr adrodd darnau harddonol, ag y meddyliai ef fyddai at archwaeth y presenolion; nid oedd ef wedi ei gynysgaethu â dawn peraidd i ganu, ond adroddai yn rhyfedd o adeiladol, heb roddi tramgwydd i neb o archwaeth a synwyr, fel nad oedd raid i forwynig wridio, na sant i ocheneidio wrth ei glywed.

Meddianai R. Jones ar dymher a thuedd boddlongar yn mhob cyflwr heibio i'r cyffredin-ni fynai roddi poen i'w gyfaill trwy son am ei drafferthion ei hun, ond gadawai hyny o'r neilldu rhag chwerwi cyfeillach; ni arferai roddi poen gwirfoddol i neb pan yr oedd yn lletya gydag ereill, nac ychwaith pan yn cadw ei hun; caredig i bawb o'i amgylch; a'r neb ymwelai ag ef o'r dref neu o'r wlad, sirioldeb a gyfarfyddent ynddo ef. Lletyodd yn garedig lawer, fel y gŵyr lluaws, o bregethwyr y Bedyddwyr, ag oeddynt yn ei amser ef yn ymweled â Llynlleifiad. Yr oedd yn dyner i'w briod, a thadol i'w blant pan yn fahanod, ac mor gynted y deuent i dòri geiriau, ymhyfrydai yn fawr i'w haddysgu i adnabod y llythyrenau, a'u dodi wrth eu gilydd; ac yr oedd ganddo ffordd ddifyrus i'w denu i ddysgu, heb roddi baich ar eu meddyliau tyner, ond gwledd oedd ganddynt gael gwers gan eu tad bob amser. Da iawn fyddai i rieni mewn tref a gwlad ymdebygoli i R. Jones yn y pethau hyn. Magodd ef duedd a dymuniad yn y plant i ofyn am gael myned i ysgolion, &c. Yr oedd ei ddull ef yn cyfranu addysg iddynt, fel yr oedd hyny yn adfywiad i'r plant amgen na'r chwareu mwyaf hoffus ag sydd yn difyru plant yn gyffredin. Sicr gan yr ys. grifenydd mai yr uchod yw y cynllun goreu i hyfforddi plant yn mhen eu ffordd.

Nid oedd R. Jones yn foddlon bod un o'r Cyhoeddiadau Cymreig am un mis yn myned heibio heb iddo ef ei weled, ac amryw o'r rhai Seisnig yr un modd. Gwybod aeth oedd ei hyfrydwch ef-ac ni adawai ychwaith i'w bethau anwyl ef droseddu dim ar amser ei feistr neu ei feistriaid, canys yr oedd ymddiried mawr iddo ef yn y swyddfa gan y boneddigion, ag y bu ef gyda hwy gy nifer o flynyddoedd yn trafod eu meddianau, ac ni chawsant ynddo un twyll i'r diwedd. Gwyddai R. J. ei bod yn ddyledswydd arno i roddi eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw.'

6

Ganed R. J. yn y flwyddyn 1808, yn mhlwyf Llanengan, sir Gaernarfon, o rieni parchus. Yr oedd ei dad yn perthyn i un o gychod y Llywodraeth yn Studwell Roads, a symudwyd wedi hyny i Ravenglass, swydd Cumberland, pan oedd Robert tua thair blwydd oed, a chollodd ei Gymraeg cyn dy chwelyd i Leyn, i gael ysgol yn ardal ei berthynasau; ond buan daeth Robert i afael Cymraeg eilwaith, a chynyddodd yn yr ysgol neibio i'r rhan amlaf o'i gyd-ysgoleigion; a daeth i Lynlleitiad yn dra ieuanc, at berthynas iddo o'r enw William Williams, ac yn byw yn Bixteth Street. Rhwymwyd R. Jones efo Masnachwr mewn swyddfa gyfrifol, a daeth ar gynydd a pharch yn mhob man y bu, gan ei uwchraddolion hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn wrandawr astud ar yr efengyl trwy yr amser ag y bu heb broffesu yn gyhoeddus; a bedyddiwyd ef ar

y30ain o Hydref, 1825, gan Daniel Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn mhlith y Bedyddwyr Cymreig yn y dref y pryd hwnw, a llawer blwyddyn wedi hyny. Rhedodd R. J. ei yrfa grefyddol heb roddi tramgwydd i Iuddew na Groegwr, nac ychwaith i Eglwys Ddaw. Bu R. Jones yn ddedwydd iawn yn ei briodas (1834). Cafodd ymgeledd gymhwys iawn yn Miss Margaret Griffiths, merch Mr. W. Griffiths, o Fodwrddau, Lleyn, ac ni bu achos iddi hithau alaru o ymuno ag R. J., hyd nes y galar mawr o'i goli. Cawsant bedwar o blant, sef dwy ferch a dau fab; ond bu dau o honynt farw cyn marw eu tad, ac y mae dau yn fyw, sef William, yr henaf o honynt, a Margaret, set eu trydydd plentyn, efo eu mam i gofio am briod ac am dad gofalus a theimladwy, ond nid ces ganddynt ond hiraethu. Nid oes gan ei weddw achos gofidio am un esgeulusdod tuag ato ef, pan yn iach na phan yn afiach. Tyner oedd ei theimlad tuag ato o ddydd eu hundeb hyd ddydd y dattodiadteimlad dymunol yn nghanol tristwch yw bya. Tad yr amddifaid a phorth pob angenog a'u bendithio, medd yr ysgrifenydd o ddyfnder calon.

Bedd-argraff ar fedd R. Jones.

Er yma y'mro yr anmharch,-daw Iesu
Dywysog i'w gyfarch;

A Robert yn wr bybarch
God o rych a gad yr arch.

CONGL Y MIS.

D. JONES.

BASGAWD OWAIN GWYNEDD.

ENW Y MIS.

JONAWR. January. Januarius. Janus. Jana.-Porth, agoriad. Dyna yr enw; ac o'r linach Ladinaidd y tardda. Numa a osododd y flwyddyn i ddechreu yn y mis hwn, ac a roddodd iddo ei enw oddiwrth Janus. Hwn ydoedd un o dduwiau cyntefig yr hen Rufeiniaid. Nid yw i'w gael yn hen dduwyddiaeth foreu Groeg. Tybir y perthyna yn gyntaf i'r Pelasgiaid; cyn-bres. wylwyr hen Thrace a Thessali, ac adeiladwyr y dinasoedd Achaia, Phthiotis, a Phelagiotis. Y bobl hyn a gredent mewn dau fod goruchaf, yn y rhai y gwelent natur a'i chynyrchion. Yn ol yr arfer foreu Hieroglyphicaidd, tynent luniau o'r duwiau hyn; weithiau, dwy ddelw, un yn wryw, a'r llall yn fenyw. Pryd arall, un ddelw a dau ben. Pan y crwydrodd y genedl hon hyd Itali, a dysgu moesau i'r Lladiniaid, hwythau a ddygwyd i gofleidio yr un credo; ac a roddsant yr enw Janus i'w duw. Addolent ef fel duw y duwiau (fel ei gelwir yn yr Emyn

* Gwelir el fedd yn Ninas y Meirw (Necropolis), Lynesfiad.

au Salianaidd), rheolydd y flwyddyn, ffortun dynion, a phenderfynydd rhyfel a heddwch. Tynent ei eilun fel gŵr grymus yn eistedd ar orsedd ddysglaer (weithiau yn nghanol deuddeg gorsedd, y deuddeg mis), dau wyneb ganddo, un hen yn edrych yn ol, a'r llall yn ieuanc, yn edrych yn mlaen (yr hen flwyddyn, neu yr hen fis, a'r newydd); dygai allwedd yn ei law dde, fel yr agorwr a'r cauwr, y Janua mawr; a theyrnwialen yn ei law aswy. Yr oedd iddo ddelw hefyd a phedwar wyneb. Plethid ei lywodraeth gan beirdd ag eiddo Sadwrn; dywedent mai Janus brenin da a ddysgodd amaethyddiaeth, &c., gyntaf i'r Lladiniaid; ond pan y bu i Sadwrn orfod ffoi rhag lid ei blant, iddo ddyfod at Janus, a chyd-deyrnasu ag ef; a dyna y pryd y bu oes-euraidd Latium. Ovid, yn ei Fasti, a ddarlunia Janus fel unig borthor nef a daear, yn agor porth y nefoedd yn y boreu, er gollwng y dydd allan, ac yn ei gau yn y prydnawn. Rhoddid pob porth o dan fendith a gofal y duw hwn. Gelwid y drws Janua; a mynedfa o un heol i'r llall, &c., yn Janus. Yr oedd dydd cyntaf pob mis yn gysegredig iddo, heblaw gwyl arbenig agoriad y flwyddyn. Efe a gyferchid gyntaf yn nechreu pob gweddi o dan yr enw tad. Ac aberthid iddo flaen-ffrwyth y bara a'r gwin. Gwnaeth Romulus deml i'r duw hwn; a Numa a sefydlodd ddefod iddi fod â'i phyrth yn agored yn nhymor rhyfel, ac yn gauedig yn nhymor heddwch. Ac ni chauwyd hi ond tair gwaith yn ysbaid saith can mlynedd; unwaith yn amser Numa; yr ail waith ar ol y rhyfel Piwnaidd cyntaf; a'r waith olaf yn amser Augustus, A. U. C. 744.

CANIAD Y MIS.

Boed blwyddyn newydd dda i chwi,
Gyfeillion mwynion aml ri,'
Derbynwyr call y SEREN sydd
A'i goleu llachar fel y dydd.
Y mae y flwyddyn wedi'i geni,
Gwel ei seren yn sirioli,
A thrwy Walia wen y Cymro
Dacw'r doethion wrthi'n teithio.
Yn enw'r tad, pryd tyr y dydd
Ar rudd y flwyddyn newydd?
Ha! Dyna udgorn mab yr iâr
Yn rhoddi seingar rybudd.

A dyna dwrw y dyrnwr o'r 'sgubor,

Yn deffro'r cysgadur-e gyfyd ei benEdrycha drwy'r ffenestr-a gwel yr holl oror Yn ddysglaer fel marmor-a'r holl ddae'r yn

wen.

Dacw waed ar y llanerch wen, Prawf i'r milgi dan y pren Ddala eiddil bryfyn brau Awr yn ol, a hi'n dyddhau. Dacw ddynion draw yn hela, Dacw blant yn lluchio eira, A rhai yn llithro ar y rhew, Weilch glew yn lion eu gwala. Ha! Robin bach, â dy fron goch, A dy gân wech, tyr'd i fy mwthyn; Mae'r berth yn grin-mae'r gwynt yn groch, Tyr'd ar frys-hwda friwsionyn.

« PreviousContinue »