Page images
PDF
EPUB
[blocks in formation]

CYHOEDDWYD GAN Y PARCH. D. D. EVANS, A J. EVANS,
ARGRAFFYDD, CAERFYRDDIN.

"Rhydd i bawb ei feddwl; a rhydd i bob meddwl ei lafar."-DIAR. CYM.

[graphic][merged small][merged small]

ARGRAFFWYD AC AR WERTH GAN J. EVANS, YN HEOL.Y.

FARCHNAD ISAF.

[ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small]

RHAGYMADROP”.

GYDWLADWYR SERCHOG,

OLWYNION amser a dreiglant yn ddiorphwys, mynediad ei gerbyd sy filoedd o weithiau yn gyflymach nâ'r mellt, ac y mae llygaid dynion yn rhy weinion i graffu arno, a'i ganlyn, am fynydyn, yn ei yrfa gwmpasog. Ni welir ei lun, ac ni chlywir ei lais; eithr gwelir a theimlir ei effeithiau grymusol trwy yr holl fydoedd creedig. Tra y mae yn cyfodi y naill i fodoliaeth, y mae yn darostwng y llall i diroedd tywyll angau a'r bedd. Y mae megys goruchwyliwr ffyddlawn ac anmhleidgar dan lywyddiaeth Rhagluniaeth cyffredinawl. Gyda'r un parodrwydd y dyry efe ei eiliadau i'r cardotyn a'r brenin, i'r hen a'r ieuanc, ac i'r duwiol a'r annuwiol. Er y gwyddom mai cyrchu rhagddo i'w daith yn barhaus a wna efe, etto nid yw un o fil o'i effeithiau yn rhag-ganfodadwy i ni. Er nad yw ond megys doe er pan wnaeth y SEREN ei hymddangosiad cyntaf, etto, wele yn awr ddeng mlynedd o'i hoes wedi myned heibio. Pan gychwynodd gyntaf i'w chylchdaith, llawer a ddaroganent ei diffoddiad; gwedi iddi wasgaru ei goleuni, am flynyddau, trwy ardaloedd tywyll y Gogledd a'r Dehau, chwythodd llawer awel groes yn ei herbyn; eithr y mae ein Gohebwyr dysgedig, a'n Goruchwylwyr ffyddlawn, yn gystal â'n Darllenwyr lliosog, yn parhau o hyd i ddangos awyddfryd ychwanegol o'i phlaid.

Os yw henafwyr a henafwragedd Cymru yn cael difyrwch, y gwŷr a'r gwragedd ieuainc yn cael addysg, a'r meibion a'r merched yn cael hyfforddiant, trwy gyfryngiaeth y SEREN, diolchent yn flaenaf i oruchel Reolydd rhagluniaeth, ac yn ail i'r Gohebwyr dawnus a dysgedig, y rhai yn gysson a diflin a anfonant atom eu Gohebiaethau o amrywiol barthau y Dywysogaeth, yn gystal ag o Loegr. Nid ydym yn amcanu canmol ein hunain wrthych, Gyfeillion, nac ychwaith yn awyddus i gael ein canmol genych, ond yn unig am ein FFYDDLONDEB a'n HANMHLEIDGARWCH. Anmhleidgarwch yw y brif fflam a gynneuodd mor olau yn nhywyniad cyntaf y SEREN,-anmhleidgarwch yw y llwybr uniawn a ddilynodd trwy holl flynyddoedd ei hymdeithiad,-anmhleidgarwch sydd yn dwyn iddi anrhegion yn fisol oddiwrth enwogion ein Cenedl,-anmhleidgarwch a'i cynnal

iodd yn uwch ei chylchrediad nâ'r holl oruchion bychain a wibiant am enny mewn cymydd a chilfachau, ac yna a ddiflanant,―anmhleidgach a alluogodd ein Gohebwyr i gael allan wybodaethau a fuasent, heb hyny, hyd heddyw yn guddiedig, ac anmhleidgarwch fydd testun ymffrost ein Cyhoeddiad pan fyddo gruddiau culion pleidgarwch wedi glasu, a'i einioes yn darfod o eisiau maeth; a phe collai y ŠEREN y nodweddiad hwn, hi a gollai ei thegwch a'i defnyddioldeb yr un dydd. Er prawf o'n hanmhleidgarwch, yr ydym bob amser wedi dangos yr un parodrwydd i gyhoeddi y flangellau llymion a roddir gan ein Gohebwyr parchus ar ein gwarau ein hunain, â'r rhai a roddir ganddynt i'w gilydd, os byddai ynddynt y radd leiaf o degwch a dynoliaeth, a'r tuedd lleiaf i fod o les cyffredinol.

Gwyddom ei fod yn llawenydd gan filoedd o'n cydgenedl weled fod Cyhoeddiad misol yn eu hiaith eu hunain, wedi cyrhaedd cymmaint o rym a sefydlogrwydd, hyd oni alluogir y Cyhoeddwyr i'w hanrhegu, ar brydiau, â Darluniau mor hardd â'r gorau a welir mewn Cyhoeddiadau misol Seisnig. Bydd y Derbynwyr, y mis nesaf, wrth gael Darlun y diweddar Brif Weinidog, yr Anrhydeddus George Canning, yn cael mwy nâ gwerth Deunaw Ceiniawg am eu Chwe Cheinia wg.

Gan ddychwelyd ein diolchgarwch gwresocaf i'n holl frodyr a'n cyfeillion,-gan addaw eu gwasanaethu y flwyddyn nesaf ag ymdrechiadau ychwanegol, os caniatêir i ni einfoes ac iechyd,-gan ddymuno llwyddiant parhaus i gynnydd Gwybodaeth Gyffredinol yn mhlith ein cydwladwyr, -a chan ewyllysio, yn benaf oll, fod i awdurdod yr Efengyl orchfygu gwrthnysigrwydd didduwiaeth ac anghristiaeth, a phob anfoesoldeb arall, yn mhob goror o'n gwlad, nyni a ganwn yn iach i chwi oll y flwyddyn hon etto.

GOLYGYDD.

« PreviousContinue »